Newyddion S4C

Ffoaduriaid o Wcráin yn gobeithio aros 'dros dro' yn unig mewn gwesty yng Nghaerdydd

22/08/2023

Ffoaduriaid o Wcráin yn gobeithio aros 'dros dro' yn unig mewn gwesty yng Nghaerdydd

Mae ffoaduriaid o Wcráin sydd wedi cael eu symud mewn i westy yng Nghaerdydd yn obeithiol mai dros dro y byddan nhw'n aros yno.

Fe symudodd Svitlana a Yevheniia Rizina, sy'n fam a merch, i'r gwesty saith wythnos yn ôl ac maen nhw'n aros i'r cyngor eu darparu â llety tymor hir.

Yn ôl Cyngor Ffoaduriaid Cymru, mae hi'n broblem gyffredin.

Dywedodd Cyngor Caerdydd bod yna "alw digynsail" am dai ar hyn o bryd.

Mae dros 7,000 o bobl o Wcráin wedi cyrraedd Cymru ers i'r cynllun Cartrefi i Wcráin agor.

Mae tua hanner y bobol hynny wedi cael eu cefnogi gan gynllun uwch-noddwr Llywodraeth Cymru, gyda dros 2,000 mewn llety tymor hir.

Fe all llety tymor byr gynnwys gwestai, noddfeydd hosteli a gwely a brecwast.

Image
Ystafell Svitlana a Yevheniia Rizina
Ystafell Svitlana a Yevheniia Rizina yng Nghaerdydd.

Ar ôl i'r rhyfel ddechrau yn Wcráin, fe symudodd Svitlana a Yevheniia Rizina, sy'n fam a merch o ddinas Kryvyi Rih, i Gaerdydd.

Fe fuon nhw'n byw gyda theulu o dri yn y brifddinas, sef Mali Llywelyn, ei phartner Andrey a'u merch.

"Fe wnes i ddisgyn mewn cariad gyda Chaerdydd yn syth - y bensaernïaeth, y parciau a natur," meddai Yevheniia. "A pan wnes i gyrraedd fe wnes i ddisgyn mewn cariad gyda'r bobol. Yr unig beth alla'i ddweud wrth bobol Cymru ydi diolch."

Ar ôl tua blwyddyn, fe wnaethon nhw symud o'r tŷ yn y gobaith o ddod o hyd i le eu hunain, ond fe gafodd y ddwy eu symud gan Gyngor Caerdydd i westy yn y ddinas.

"Roedd o'n siom fawr iddyn nhw ac roedden ni'n poeni mai dyna fyddai'n digwydd," meddai Mali Llywelyn.

"Maen nhw'n bobol mor bositif a dwi'n meddwl i fod nhw'n meddwl y bydda nhw'n cael eu rhoi mewn lle hyfryd yn syth bin. Fe gafon nhw glywed ar y diwrnod eu bod nhw yn mynd i fod mewn gwesty mewn un stafell lle doedden nhw ddim yn cael dod a'r cathod efo nhw. 

"Mae'n anodd iddyn nhw yn emosiynol", ychwanegodd. 

Dywedodd Svitlana bod y staff yn "gyfeillgar iawn", ond nad yw'n ymarferol ar gyfer aros am gyfnod hir.

"Os ydyn ni'n prynu rhywbeth yn y siop does 'na nunlle i'w gadw. Ond ry'n ni'n deall fod hynny dros dro a gobeithio y gallwn ni gael fflat braf neu dŷ."

Fe eglurodd Yevheniia eu bod nhw'n gorfod bwyta allan drwy'r adeg gan nad ydyn nhw'n gallu coginio yn eu hystafell yn y gwesty.

"Mae'n ofnadwy o ddrud," meddai.

Mae'r ddwy yn gobeithio dod o hyd i lety tymor hir yn y misoedd nesaf.

Dywedodd Prif Weithredwr Cyngor Ffoaduriaid Cymru eu bod nhw'n "clywed am y straeon yma drwy'r adeg...miloedd o bobol ar draws Cymru a'r Deyrnas Unedig yn byw mewn llety dros dro."

Ychwanegodd Andrea Cleaver: "Mae'n dorcalonnus oherwydd mae pawb yn hynny cael cartref, to uwch eu pennau ac elfen o ddiogelwch. Mae aros mewn llety dros dro yn gwneud i bobol deimlo'n ansicr.

"Mae'n anodd iawn i bobol fyw bywydau normal ac mae'r llefydd yn fach iawn."

Yn ôl Cyngor Caerdydd maen nhw'n ceisio gwneud popeth o fewn eu gallu i helpu pobol i symud i lety addas "cyn gynted a sy'n bosib ond mae galw digynsail am gartrefi ar hyn o bryd".

Ychwanegodd llefarydd ar ran y cyngor: "Mae ein tîm cartrefi yn gweithio gyda channoedd o deuluoedd ac unigolion, yn ogystal â mewnfudwyr, i geisio ffeindio llety iddyn nhw."

Dywedodd Llywodraeth Cymru: "Rydyn ni’n darparu cyllid symud ymlaen gwerth £2m i helpu awdurdodau lleol i gefnogi gwesteion o Wcráin i symud i lety yn y sector rhentu preifat. Rydyn ni hefyd yn galw o hyd am fwy o ddarpar westeiwyr," meddai.

Ychwanegodd: "Nid ydyn ni’n gwneud sylwadau ar achosion unigol ond rydyn ni’n annog gwesteiwyr i gael sgyrsiau cynnar gyda’u gwesteion os yw’r amgylchiadau’n newid. Rydyn ni hefyd yn annog gwesteion i siarad gyda’u hawdurdod lleol cyn gynted â phosibl er mwyn gallu dechrau ar y gwaith o chwilio am lety amgen.” 

Newyddion diweddaraf

Mae'r wefan hon yn defnyddio cwcis i sicrhau eich bod chi'n cael y profiad gorau ar ein gwefan.