'Maen nhw'n hanfodol': Galw am fwy o gyllid 'i achub cylchgronau a gwefannau Cymreig'
Mae bron i 150 o lenorion ledled Cymru yn galw am fwy o gyllideb 'i achub cylchgronau a gwefannau Cymreig.'
Cafodd y llythyr ei greu gan Mike Parker ac mae wedi cael ei arwyddo gan wynebau adnabyddus yng Nghymru yn cynnwys yr Athro Laura McAllister, y Prifardd Ifor ap Glyn a'r Athro Richard Wyn Jones.
Mae'n nodi bod y "swm hynod fychan" oedd ar gael "wedi mynd ymhell iawn", ond bod angen buddsoddiad pellach erbyn hyn.
Dywedodd Mike Parker wrth Newyddion S4C bod cylchgronau a gwefannau Cymreig yn "hanfodol" i ddiwylliant a hanes Cymru.
"Mae'n amhosib gor-ddweud eu pwysigrwydd," meddai.
"Mae'n hanfodol i ddiwylliant, datblygiad a'r drafodaeth genedlaethol. Maen nhw'n gofyn y cwestiynau pwysig i wleidyddion ac yn holding truth to power."
Bwriad y llythyr yn ôl Mr Parker yw:
- Galw ar bob corff sy'n gyfrifol am gyllido cylchgronau a gwefannau i ddod ynghyd i gydlynu ymdrechion i wella cyllid craidd, a hynny fel mater o frys.
- Cynyddu'r cyllid craidd ar gyfer pob cylchgrawn a gwefan sy'n llwyddiannus yng ngalwad nesaf y grantiau ar gyfer cylchgronau Saesneg eu hiaith, a hynny fesul cyhoeddwr hyd at lefel sy'n caniatáu amodau gwaith moesegol ar gyfer pob un gweithiwr a gyflogir, ar gyfer gweithwyr llawrydd a chyfranwyr, ac yn gyfnewid am greu cynnwys rhagorol
- Sicrhau setliad cyllido teg newydd ar gyfer cylchgronau a gwefannau ddod i rym ar sail y cyllid craidd a gytundebir ar gyfer cyfnod cytundeb y grantiau Saesneg nesaf, ac yn yr un modd ar gyfer gweddill cyfnod cytundeb presennol y grantiau Cymraeg.
Mae Llywodraeth Cymru, sydd yn rhannol gyfrifol am gyllido'r cylchgronau a gwefannau yn yn dweud bod arian ychwanegol eisoes ar gael.
"Trwy ein Cytundeb Cydweithio gyda Phlaid Cymru, mae £135,000 ychwanegol wedi bod ar gael i’r Cyngor Llyfrau yn y flwyddyn ddiwethaf i gefnogi cylchgronau Cymraeg."
"Rydym hefyd yn darparu £200,000 i ariannu mentrau cyfryngau Cymreig a gwella newyddiaduraeth yn y Gymraeg, a fydd hefyd yn cyfrannu at fynd i’r afael â’r materion sy’n wynebu’r sector.”
Annigonol
Mae'r llenor a phennaeth PEN Cymru, Menna Elfyn wedi dweud bod y cyllid sydd ar gael i lenorion yn "hollol annigonol."
"Roedd arwyddo’r llythyr yn fater o raid fel un o gant a hanner o ysgrifenwyr eraill yng Nghymru, a hynny er mwyn tynnu sylw at ddiffygion yn y maes hwn.
"Mae’r cyllid sydd yn yr arfaeth yn hollol annigonol ac nid yw’n diwallu anghenion y byd newyddiadurol fel ag y mae ar hyn o bryd.
"Mae’n rhaid pwysleisio mor anodd yw hi ar rai o’r gweithwyr yn y sector yma: mae un cylchgrawn yn talu cyflog o 27 awr i un golygydd ond er mwyn cael y cylchgrawn wedi ei gyhoeddi‘n raenus a disglair, mae’r wythnos waith rhwng 70 a 80 awr.
"Rhoddaf un enghraifft yn unig o lawer – mae’r cyllid a roddir i gylchgrawn fel ‘ Planet’ erbyn hyn yn llai na hanner na’r hyn a gafwyd yn 2008 ac eto mae’r costau argraffu a golygu wedi chwyddo yn anferthol ers hynny.
"Afraid dweud bod sicrhau cyllid digonol i gylchgronau yn hollbwysig a bwriad y llythyr yw derbyn a gweithredu ar frys i wella’r ddarpariaeth ariannol a roddir.
Ychwanegodd Mike Parker bod y buddsoddiad yn y diwydiant wedi gwaethygu.
Nid yw pethau'n gallu parhau fel y maen nhw, meddai'r awdur.
"Maen nhw di gwaethygu dros y blynyddoedd rili a mynd o waeth i waeth.
"Mae'n hollol anghynaladwy. Ni ishe trial cael trafodaeth rhwng awduron, y Llywodraeth a'r Cyngor Llyfrau wrth gwrs.
"Mae sawl pwrpas i'r llythyr ond y prif bwynt yw dangos bod ni methu cario 'mlaen, mae'n amhosib."
Pwysau
Wrth ymateb i'r llythyr, dywedodd llefarydd ar ran Cyngor Llyfrau Cymru eu bod nhw’n “ymwybodol iawn” o’r pwysau.
“Rydym yn lobïo Llywodraeth Cymru yn gyson am fwy o gyllid i’r diwydiant yn gyffredinol ac i’r cylchgronau’n benodol," meddai'r llefarydd.
“Rydym newydd hysbysebu proses dendro ar gyfer y cyfnodolion Cymreig, ac fe fydd y materion hyn yn cael sylw manwl yn ystod trafodaethau’r Panel.”