Trawsblaniad croth cyntaf y DU yn llwyddiant: Ond beth mae'n ei olygu?
Mae trawsblaniad croth cyntaf y DU wedi bod yn llwyddiant ac mae'n golygu y gall menywod sy’n cael eu geni heb organ weithredol gario eu babanod eu hunain yn y groth.
Beth sydd wedi digwydd?
Mae llawfeddygon wedi perfformio trawsblaniad croth cyntaf y DU ar ddynes 34 oed. Fe gafodd y ddynes yr organ gan ei chwaer fawr.
Mewn triniaeth gymhleth, tynnodd y tîm meddygol yr wterws oddi ar y ddynes 40 oed a'i mewnblannu'n uniongyrchol yn ei chwaer.
Mae'r ddwy fenyw wedi gwella'n dda.
A oes unrhyw fabanod wedi’u geni?
Ddim eto. Mae arbenigwyr am sicrhau bod y trawsblaniad yn sefydlog a bod y groth yn gweithredu'n llawn cyn i'r ddynes gael triniaeth IVF.
Mae'r ddynes yn gobeithio cael mwy nag un babi. Unwaith y bydd hi wedi cwblhau ei theulu, bydd y groth yn cael ei thynnu o’i chorff i'w hatal rhag bod angen cyffuriau gwrthimiwnedd am weddill ei hoes.
A oes trawsblaniadau croth eraill wedi’u cynnal ledled y byd?
Mae mwy na 90 o drawsblaniadau croth wedi'u cynnal yn rhyngwladol, gyda'r rhan fwyaf o lawdriniaethau gan roddwr byw.
Digwyddodd y trawsblaniad croth llwyddiannus cyntaf yn Sweden yn 2014, gyda’r babi – Vincent – yn cal ei eni i ddynes 36 oed.
Pa mor llwyddiannus yw’r llawdriniaeth?
Yn ôl data o'r Unol Daleithiau mae mwy na hanner y menywod a gafodd groth trwy drawsblaniad yn America wedi mynd ymlaen i gael beichiogrwydd llwyddiannus.
A fydd mwy o drawsblaniadau yn y DU?
Bydd. Mae disgwyl i ail drawsblaniad croth Prydain gael ei gynnal yr hydref hwn ac mae arbenigwyr yn credu y gallai uchafswm o 20 i 30 y flwyddyn gael eu cynnal yn y DU yn y dyfodol.
Does gan tua 15,000 o fenywod yn y DU yn oedran beichiogi ddim croth sy'n gweithredu.