Newyddion S4C

Bachgen o Bort Talbot yn y llys am beintio symbol Natsïaidd dros furlun

22/08/2023
murlun Natsiaidd- Port Talbot

Mae barnwr wedi rhybuddio bachgen o Bort Talbot wnaeth beintio dros furlun Windrush gyda symbol Natsïaidd y gall wynebu cyfnod yn y carchar, wedi iddo gyfaddef i wyth cyhuddiad yn ei erbyn.

Mae'r llanc 17 oed, sydd methu cael ei enwi am resymau cyfreithiol wedi ei gyhuddo o bum trosedd yn ymwneud â therfysgaeth.

Yn ei feddiant, roedd darn testun sydd wedi ei wahardd a oedd yn disgrifio adeiladu bomiau, herwgipio heddweision ac yn mawrygu hil-laddiad.

Roedd ganddo hefyd lyfr oedd yn cynnwys cyfarwyddiadau ar sut i adeiladu dryll.

Roedd dau gyhuddiad o achosi difrod troseddol mewn cysylltiad â graffiti a ymddangosodd ar furlun ym Mhort Talbot ar 27 Hydref a 5 Tachwedd y llynedd.

Roedd y gwaith celf yn dathlu'r gymuned Garibïaidd yn y dref, ond cafodd trigolion lleol eu hysgwyd ar ôl i sawl 'swastika' a sylwadau hiliol gael eu paentio arno oriau ar ôl iddo gael ei gwblhau.

'Bregus'

Mae’r llanc hefyd yn wynebu un cyhuddiad arall o ddifrod troseddol ar ôl iddo ddifrodi llawr yn 'The Queer Emporium' yng Nghaerdydd ar 31 Hydref y llynedd.

Fe gyfaddefodd y llanc i bob un o’r wyth cyhuddiad mewn gwrandawiad ym mis Mehefin.

Gofynnodd ei fargyfreithiwr David Elias KC am iddo gael ei arbed o’r carchar ac i dderbyn dedfryd o orchymyn adferiad ieuenctid.

Dywedodd Mr Elias fod y llanc yn “fregus”, awtistig a bod ganddo anhwylder personoliaeth, a'i fod wedi treulio “oriau hir ar-lein” yn ystod y pandemig.

Ychwanegodd: "Mae'n aml yn teimlo nad yw'n ffitio mewn gyda'i ffrindiau, sy'n cael effaith enfawr ar ei hunan-barch, ac yn awyddus iawn i gael ffrindiau a dyheadau ar gyfer y dyfodol."

Dywedodd y barnwr fod ymddygiad y llanc yn "wrthun ac yn hynod o ddifrifol" a bod dim dewis ond ei ddanfon i'r ddalfa.

"Petaech chi mewn llys oedolion fe fydden ni'n sôn am flynyddoedd, nid misoedd dan glo," meddai.

Cafodd yr achos ei anfon i Lys yr Old Bailey yn Llundain ar gyfer y ddedfryd ar 4 Medi.

Newyddion diweddaraf

Mae'r wefan hon yn defnyddio cwcis i sicrhau eich bod chi'n cael y profiad gorau ar ein gwefan.