Ymchwiliad Llaneirwg: Dyn yn pledio'n euog i ddau gyhuddiad o yrru'n beryglus
Ymchwiliad Llaneirwg: Dyn yn pledio'n euog i ddau gyhuddiad o yrru'n beryglus
Mae dyn 32 oed wedi pledio'n euog i ddau gyhuddiad o yrru'n beryglus ac o yrru ar ôl cael ei wahardd.
Ymddangosodd Shane Loughlin yn Llys Ynadon Caerdydd ddydd Mawrth wedi ei gyhuddo mewn cyswllt ag ymchwiliad i wrthdrawiad angheuol ar ffordd yr A48 yn Llaneirwg, Caerdydd ar 4 Mawrth.
Dywedodd Heddlu De Cymru nad yw'r troseddau hyn yn ymwneud â'r gwrthdrawiad angheuol hwnnw pan fu farw'r gyrrwr Rafel Jeanne a'r teithwyr Darcy Ross ac Eve Smith. Cafodd Shane Loughlin a Sophie Russon, 20, eu hanafu'n ddifrifol a'u cludo i'r ysbyty wedi'r gwrthdrawiad hwnnw.
Roedd y cyhuddiadau yn erbyn Loughlin yn ymwneud a'r cyfnod rai oriau cyn y gwrthdrawiad ar draffordd yr M4 ar 3 Mawrth.
Bydd Shane Loughlin yn cael ei ddedfrydu fis nesaf.