Dyn 27 oed wedi marw yn dilyn gwrthdrawiad ger Casnewydd
21/08/2023
Mae dyn 27 oed wedi marw yn dilyn gwrthdrawiad ar briffordd rhwng Coldra yng Nghasnewydd a Brynbuga yn Sir Fynwy ddydd Sul.
Cafodd Heddlu Gwent eu galw i ffordd yr A449 oddeutu 13.30 brynhawn Sul.
Roedd y gwrthdrawiad rhwng dau gerbyd, sef fan a cherbyd amaethyddol. Bu farw gyrrwr y fan ar ôl iddo gael ei gludo i’r ysbyty.
Mae teulu'r dyn wedi cael gwybod am ei farwolaeth ac yn cael eu cefnogi gan swyddogion arbenigol.
Fe gafodd y ffordd ei chau i’r ddau gyfeiriad am ryw 8 awr ddydd Sul.
Mae'r heddlu yn apelio ar unrhywun a oedd ar ffordd yr A449 rhwng 13.00 a 14.00 brynhawn Sul i gysylltu â nhw.