Golwr Wrecsam Ben Foster yn ymddeol
Mae golwr Wrecsam, Ben Foster, wedi ymddeol o bêl-droed proffesiynol.
Mae'r cyn golwr Lloegr wedi penderfynu dod a'i yrfa i ben, a hynny ond ychydig o gemau ar ôl cychwyn y tymor newydd.
Dywedodd ei fod wedi gwneud y penderfyniad gan nad oedd ei berfformiadau ar y cae wedi cyrraedd y lefel yr oedd yn ei ddisgwyl y tymor hwn.
Siaradodd Foster gyda rheolwr Wrecsam, Phil Parkinson ar ôl y gêm yn erbyn Swindon ddydd Sadwrn.
“Y gwir yw, nid yw fy mherfformiadau'r tymor hwn wedi cyrraedd y lefel rwy’n disgwyl gennyf i fy hun ac rwy’n teimlo mai nawr yw’r amser iawn i ymddeol.
"Nid yn unig dyma oedd orau i mi ond hefyd y clwb, ac mae gwneud y penderfyniad nawr yn rhoi pob cyfle i’r clwb dewis olynydd cyn i’r cyfnod trosglwyddo gau.
“Bydd gan Wrecsam le arbennig yn fy nghalon am weddill fy oes.”
Dywedodd Rheolwr Wrecsam, Phil Parkinson: “Mae Ben wedi bod yn chwaraewr proffesiynol tra yn Wrecsam ac wedi gwneud popeth yr ydym wedi gofyn iddo.
“Mae’n cymryd person mawr i wneud y penderfyniad yma, ac un sydd wir yn deall y clwb pêl-droed yma.
“Rwy’n siŵr fy mod yn siarad ar ran pawb wrth ddiolch iddo am ei gyfraniad, a aeth ymhell y tu hwnt i’r arbediad cic gosb godidog hwnnw yn erbyn Notts County i’n helpu i ennill dyrchafiad y tymor diwethaf.
Fe wnaeth Foster ddychwelyd i’r Cae Ras 18 ym mis Mawrth eleni, 18 mlynedd ers ei gyfnod diwethaf gyda’r clwb.
Ar ddechrau’r tymor hwnnw, fe gyhoeddodd ei fod wedi ymddeol o’r gamp, ar ôl chwarae 26 gêm dros Watford yn Uwch Gynghrair Lloegr yn nhymor 2021/22.
Llun: CPD Wrecsam