Cyhuddo gwarchodwyr ffin Saudi Arabia o 'ladd cannoedd' o fudwyr o Ethiopia
Mae gwarchodwyr ffin Saudi Arabia eu cyhuddo o ladd cannoedd o bobl o Ethiopia mewn ymgyrch gall cael ei ystyried fel "trosedd yn erbyn dynoliaeth", yn ôl sefydliadau hawliau dynol.
Mae adroddiad gan y sefydliad Human Rights Watch (HRW), sydd yn cynnwys cyfweliadau gyda dwsinau o bobl o Ethiopia, yn dweud fod drylliau ac arfau ffrwydrol wedi eu defnyddio ar fudwyr wrth iddyn nhw geisio croesi’r ffin.
Fe gafodd eu hymosod arnynt gan warchodwyr ffin pan geisiodd i groesi’r ffin i Saudi Arabia o Yemen, yn ôl adroddiadau The Guardian.
Mae HRW wedi cael gafael ar ffotograffau o dros 20 digwyddiad yn dangos pobl yn farw.
Gyda defnydd pellach o ddelweddau lloeren, tystiolaeth gan oroeswyr, a gydag archwiliad gan arbenigwyr fforensig o glwyfau goroeswyr, mae’r ymchwiliad yn dangos bod “ymgyrch gynyddol” o “drais eithafol” wedi’i anelu at bobl sy’n croesi’r ffin.
‘Troseddau hawliau dynol difrifol iawn’
Mae adroddiadau tystion wedi disgrifio sawl digwyddiad o bobl yn cael eu saethu a’u lladd, gan gynnwys menywod a phlant .
Mae tystion hefyd wedi disgrifio golygfeydd o gyrff, a rhannau o gyrff bobl fu farw wedi’u gwasgaru ar hyd llwybrau.
“Gwelais i bobl yn cael eu lladd mewn ffyrdd nad oeddwn i byth wedi gallu dychmygu,” dywedodd Hamdiya, merch 14 oed, wrth ymchwilwyr HRW. “Gwelais i 30 o bobl yn cael eu lladd yn y fan a'r lle,” ychwanegodd.
Daw’r adroddiad fel rhan o dystiolaeth bellach ynglŷn â throseddau hawliau dynol “difrifol iawn” ar y ffin rhwng Saudi Arabia ac Yemen.
Y llynedd fe ysgrifennodd arbenigwyr y UN at lywodraeth Saudi Arabia gyda chyhuddiadau yn ei erbyn, gan gynnwys lladd cannoedd o fewnfudwyr.
Ym mis Mawrth, fe wadodd llywodraeth Saudi Arabia cyhuddiadau’r UN yn ei erbyn.
Ond ym mis Mehefin, dywedodd yr International Organisation for Migration bod o leiaf 795 o bobl wedi cael eu lladd gan warchodwyr y ffin Saudi Arabia, gyda'r “rhan fwyaf” yn unigolion o Ethiopia.
Mae’r llofruddiaethau honedig wedi cymryd lle ar lwybr mudo adnabyddus sy’n cael ei ddefnyddio gan fasnachwyr pobl, a hynny rhwng Al Jawf yn Saudi Arabia a Sa’dah yn Yemen, sef rhanbarth sy’n cael ei rheoli gan fudiad yr Houthi Ansar Allah.
Llun: Human Rights Watch.