Cwblhau gwaith adfer ar Eglwys Mwnt wedi iddi gael ei difrodi
Ddydd Sul, cafodd gwasanaeth diolchgarwch arbennig ei gynnal yn Eglwys y Grog ym Mwnt ar ôl cwblhau gwaith adfer ar yr adeilad yn dilyn fandaliaeth.
Ym mis Rhagfyr 2021, cafodd yr Eglwys ei difrodi ddwywaith gan arwain at alwad gan aelodau yn gofyn am roddion i adfer yr adeilad.
Mae’r Eglwys wedi'i lleoli ger y clogwyni ym Mwnt ac yn lleoliad poblogaidd ymhlith ymwelwyr â'r ardal yn ogystal â bod yn rhan bwysig o'r gymuned leol.
Cafodd yr eglwys ei fandaleiddio yn gyntaf ar 2 Rhagfyr 2021, cyn cael ei difrodi eto ar 20 Rhagfyr y flwyddyn honno.
Dechreuoddd y Cynghorydd Clive Davies ymgyrch i godi arian i drwiso’r difrod gyda tharged gwrieddiol o £20,000.
Llwyddodd yr ymgyrch i godi cyfanswm o £30,000 yn y pen draw.
Yn ôl Mr Davies, roedd y swm o arian yma wedi caniatáu nid yn unig atgyweiriadau ond hefyd ar gyfer gwaith hirsefydlog ychwanegol.
Yn bresennol yn y gwasaneth ddydd Sul oedd tîm aelodau lleol yr Eglwys a'r weinidogaeth leol ac Archesgob Cymru, Y Parchedicaf Andrew John.