Corwynt Hilary: Talaith California yn dioddef llifogydd 'catastroffig'
Mae disgwyl i Gorwynt Hilary yng Nghaliffornia achosi llifogydd “catastroffig” gall “newid bywyd,” mae awdurdodau lleol wedi rhybuddio.
Daw wedi i un person ym Mecsico farw ar ôl i’r corwynt taro penrhyn Baja Califfornia ddydd Sul, gan achosi difrod.
Mae o leiaf 25,000 o aelwydydd yn Los Angeles heb bŵer wrth i’r corwynt parhau i symud drwy’r ddinas.
Mae rhannau o Death Valley, sef un o’r ardaloedd poethaf y byd, eisoes wedi dioddef llifogydd yn dilyn cyfnodau o law drom.
Mae Palm Springs, y dref anialwch adnabyddus, wedi profi mwy o law mewn un awr nag yn ei hanes ar gofnod, yn ôl Llywodraethwr y dalaith, Gavin Newsom.
Mae’r tywydd eithafol wedi achosi tirlithriadau, yn ogystal ag achosi coed a llinellau pŵer i gwympo. Mae sawl ffordd, siop, a nifer o geir hefyd dan dŵr.
'Trychineb'
Roedd arbenigwyr wedi rhagweld y byddai rhai ardaloedd anial yn derbyn gwerth dwy i dair blynedd o law mewn tri diwrnod.
Bydd disgwyl i gannoedd ar filoedd o ddisgyblion a myfyrwyr yn ne Califfornia aros oddi’r ysgol ddydd Llun yn sgil y tywydd eithafol o wael.
Mae nifer fawr o bobl eisoes wedi derbyn gorchymyn i adael eu cartrefi ar frys yn y dalaith yn dilyn rhybuddion gan Ganolfan Corwyntoedd Cenedlaethol yr UDA ynglŷn â llifogydd “trychinebus.”
Hon yw’r storm drofannol gyntaf i daro de'r dalaith mewn 84 mlynedd. Y tro diwethaf i Galiffornia weld storm drofannol oedd ym 1939.
Daw’r storm ar ddiwedd haf o dywydd eithafol, ac mae arbenigwyr yn parhau i rybuddio bod y tywydd yn gysylltiedig gyda’r argyfwng newid hinsawdd.