Newyddion S4C

Llong ofod o Rwsia yn plymio'n ddisymwth i'r lleuad

20/08/2023
Luna 25 (Pline)

Mae llong ofod o Rwsia wedi plymio'n ddisymwth i'r lleuad. Doedd neb ar ei bwrdd ar y pryd gan mai cerbyd gofod di-beilot oedd Luna-25.

Gobaith gwyddonwyr oedd y byddai Luna-25 yn glanio ar y lleuad ddydd Llun, ond fe gyhoeddwyd "argyfwng" wrth iddi geisio cylchdroi'r lleuad cyn glanio'n swyddogol.

Dyma oedd ymgyrch gyntaf Rwsia i'r lleuad mewn bron i hanner canrif, ac fe fydd methiant yr ymdrech yn gryn embaras i Vladimir Putin.

Dywedodd Roscosmos, asiantaeth ofod Rwsia, fod gwyddonwyr wedi colli cysylltiad gyda Luna-25 ar ei thaith i gylchdroi'r lleuad cyn glanio, ac mae'r gred oedd ei bod wedi ei difrodi'n llwyr ar ôl taro wyneb y lleuad.

Gobaith Rwsia oedd creu hanes drwy lanio cerbyd gofod ar begwn deheuol y lleuad am y tro cyntaf.

Roedd Luna-25 wedi gadael rhanbarth Amur yn Rwsia ar 11 Awst a'r gobaith y byddai'n glanio ar y lleuad ddeuddydd cyn i wyddonwyr o India anfon llong ofod i lanio ar y lleuad hefyd.

Bwriad cynllun Rwsia oedd i gasglu samplau o begwn deheuol y lleuad yn y gobaith o ddod o hyd i arwyddion o ddŵr sydd wedi rhewi - rhywbeth y mae gwyddonwyr NASA wedi ei ddarganfod yn barod.

Llun: Pline/Wikipedia

Newyddion diweddaraf

Mae'r wefan hon yn defnyddio cwcis i sicrhau eich bod chi'n cael y profiad gorau ar ein gwefan.