Newyddion S4C

Cynnydd mewn achosion o ddifrod i geir o achos tyllau ffyrdd wedi tywydd gwlyb

21/08/2023
Tywydd garw

Fe wnaeth tywydd gwlyb mis Gorffennaf arwain at gynnydd sylweddol mewn difrod i geir o achos tyllau yn y ffyrdd, yn ôl ffigyrau newydd.

Dywedodd yr AA ei fod wedi derbyn 50,079 o alwadau i gerbydau oedd yn sownd oherwydd namau oedd yn debygol o gael eu hachosi gan dyllau yn y ffyrdd fis diwethaf.

Mae hynny'n gynnydd o'r 41,790 ym mis Gorffennaf 2022, a dyma’r ffigwr mwyaf am y mis ers 2018.

Ymhlith y problemau cyffredin a achosir gan dyllau yn y ffordd mae difrod i amsugnwyr sioc, difrod i echel cerbydau ac olwynion cam.

Mae ffigurau’r Swyddfa Dywydd yn awgrymu mai’r mis diwethaf oedd chweched Gorffennaf gwlypaf yn y DU ar gofnod erioed.

Byddai hyn wedi gwneud tyllau yn y ffyrdd yn anoddach i'w gweld a'u hatgyweirio yn ôl yr AA.

Dywedodd Jack Cousens, pennaeth polisi ffyrdd yr AA: “Fe achosodd glaw mis Gorffennaf fwy o gur pen i yrwyr gyda theiars, ataliadau a mecanweithiau llywio i gyd yn cael eu difrodi wrth i’r glaw a’r pyllau guddio’r tyllau oedd yn cuddio oddi tano.

“Byddai cynghorau wedi bod yn gobeithio am haf sych fel y gallent gael cymaint o waith atgyweirio wedi’i wneud cyn i’r hydref a’r gaeaf daro.

“Fe fyddan nhw nawr dan fwy o bwysau i gwblhau eu gwaith arfaethedig cyn i’r tywydd droi yn eu herbyn.

“Gyda 2023 yn edrych i fod yn un o’r blynyddoedd gwaethaf erioed o ran difrod tyllau yn y ffyrdd, mae angen i ni weld mwy o fuddsoddiad mewn cyllid i gynnal a chadw ffyrdd lleol.

“Yn ogystal â’r difrod ariannol i gerbydau, yr adeg hon o’r flwyddyn hefyd rydym yn gweld mwy o feicwyr a beicwyr modur ar y ffyrdd, lle gall y difrod fod yn angheuol yn anffodus.”

Newyddion diweddaraf

Mae'r wefan hon yn defnyddio cwcis i sicrhau eich bod chi'n cael y profiad gorau ar ein gwefan.