Arestio chwech o bobl ifanc yn dilyn ymddygiad gwrthgymdeithasol yn Abertawe
Mae chwe pherson ifanc rhwng 13 a 15 oed wedi cael eu harestio ar amheuaeth o droseddau trefn gyhoeddus yn dilyn ymddygiad gwrthgymdeithasol yng nghanol dinas Abertawe dros y pythefnos diwethaf.
Dywedodd yr Arolygydd Mark Watkins o Heddlu De Cymru mewn datganiad dydd Sul: “Cafodd gorchymyn gwasgaru Adran 35 ei roi ar waith ar gyfer canol dinas Abertawe ddydd Mercher, 16 Awst, ac ers hynny, yn ogystal â chwe pherson ifanc yn eu harddegau wedi cael eu harestio, mae tri llanc wedi cael eu cyfarwyddo i adael yr ardal tra bod pedwar unigolyn arall i dderbyn ymholiadau post am droseddau a gyflawnwyd.
"Mae 24 o unigolion ychwanegol ar hyn o bryd a fydd yn derbyn ymweliadau cartref gan yr heddlu a phartneriaid i dderbyn rhybuddion ymddygiad gwrthgymdeithasol.
“Bydd ymchwiliad ac adolygiad llawn o deledu cylch cyfyng nawr yn cael eu cynnal dros yr wythnosau nesaf, er mwyn adnabod y rhai sydd wedi bod yn gysylltiedig ag ymddygiad gwrthgymdeithasol a byddwn yn cymryd camau cadarn yn eu herbyn."
Ymladd ac yfed ar y stryd
Ychwwanegodd: “Mae’r ymddygiad hwn wedi cynnwys ymladd, yfed ar y stryd, ysmygu cyffuriau, difrod troseddol, cam-drin ymosodol a geiriol tuag at aelodau’r cyhoedd gan gynnwys yr henoed, yn ogystal â swyddogion heddlu ac eraill sy’n gweithio yn y ddinas ym maes trafnidiaeth gyhoeddus, manwerthu, adloniant, a sefydliadau bwyd.
“Ni fyddwn yn goddef nac yn derbyn y lefel hon o anhrefn neu aflonyddwch yn Abertawe a bydd camau cadarn yn cael eu cymryd yn erbyn y rhai y nodir eu bod yn cyflawni troseddau ac anhrefn. Byddwn yn parhau i gadw presenoldeb heddlu cynyddol yng nghanol y ddinas dros y penwythnos, a hyd at ddiwedd cyfnod gwyliau haf yr ysgol, ac ni fydd swyddogion yn oedi cyn gorfodi’r pwerau ychwanegol a roddir iddynt.”
Mae'r heddlu wedi gofyn o rieni a gofalwyr sicrhau eu bod yn gwybod ble mae eu plant yn ystod gwyliau'r haf ac os ydynt yn mynd i ganol dinas Abertawe heb yn wybod iddynt.
"Byddem yn gofyn i bob rhiant a gwarcheidwad sgwrsio â’u plentyn yn ei arddegau a’u cynghori y gallai euogfarnau troseddol effeithio ar eu dyfodol yn y pen draw os gwelwn eu bod wedi ymwneud â’r materion ymddygiad gwrthgymdeithasol diweddar.”