Newyddion S4C

Pêl-droed: Menywod Sbaen yn bencampwyr y byd

20/08/2023
sbaen v lloegr

Fe enillodd Sbaen o un gôl i ddim yn erbyn Lloegr o flaen stadiwm oedd yn llawn o gefnogwyr yn Awstralia ddydd Sul, gan hawlio Cwpan y Byd Merched 2023.

Hon oedd yr ail flwyddyn yn olynol i Loegr gyrraedd rownd derfynol cystadleuaeth fawr, ar ôl iddyn nhw ennill Pencampwriaeth Ewrop y llynedd.

Dyma'r tro cyntaf i dîm merched neu ddynion y wlad chwarae yn Ffeinal Cwpan y Byd ers 1966 ond nid oedd ei hymdrechion nhw yn ddigon i gipio buddugoliaeth.

Dechreuodd y gêm yn agos iawn gyda’r ddau dîm yn cymryd cyfleoedd i rwydo’r bêl.

Gan y Sbaenwyr oedd y mwyaf o feddiant yn ystod yr hanner gyntaf er i’r Lionessess gael yr un nifer o ergydion ar darged.

Ond o fewn hanner awr, rhwydodd Carmona, capten Sbaen, y bêl heibio’r golwr i’w rhoi ar y blaen.

Fe wnaeth y capten gicio ergyd nerthol ac isel heibio Mary Earps gan chwalu gobeithion cynnar y Saeson.  

Roedd yn rhaid i Loegr ail-strwythuro wrth i Sbaen ddechrau edrych yn gyffyrddus iawn ar y bêl wrth i'r gêm ddatblygu.

Cafodd y Lionessess un cyfle i unioni’r sgôr cyn yr egwyl, ond roedd amddiffyn Sbaen yn rhy gadarn.

Fe wnaeth Sarina Wiegamn, prif hyfforddwr Lloegr, wneud dau newid ar yr egwyl.

Daeth Lauren James, 21 oed, ymlaen i’r safle canol cae. Roedd wedi ei gwahardd am ddwy gêm ar ôl derbyn cerdyn coch yn erbyn Nigeria yn rownd yr 16 olaf.

Serch hynny, yr un oedd y stori yn ystod yr ail hanner, gyda Sbaen yn cymryd rheolaeth lwyr o’r gêm.

Fe gafodd Sbaen gyfle i ddyblu ei sgôr gyda chic o’r smotyn.

Penderfynodd y ddyfarnwraig wobrwyo’r gic i’r Sbaenwyr ar ôl i Kiera Walsh, y canolwr amddiffynol, gyffwrdd a’r bêl gyda’i llaw.

Er i Mary Earps arbed yr ergyd yn arbennig, fe wnaeth y sgorfwrdd aros yn gôl i ddim i Sbaen am weddill y ffeinal. 

Dyma’r tro gyntaf i Sbaen ennill Cwpan y Byd ac fe fydd dathlu mawr yn y wlad yn dilyn y fuddugoliaeth hanesyddol.

Newyddion diweddaraf

Mae'r wefan hon yn defnyddio cwcis i sicrhau eich bod chi'n cael y profiad gorau ar ein gwefan.