Rhieni'r cyflwynydd teledu Phil Spencer wedi marw mewn damwain car
Mae rhieni'r cyflwynydd teledu Phil Spencer wedi marw mewn damwain car.
Cyhoeddodd Kirstie Allsopp, cyd-gyflwynydd Mr Spencer ar raglen 'Location, Location, Location', y newyddion ar gyfryngau cymdeithasol ddydd Sadwrn.
Yn ei neges, dywedodd Ms Allsopp: “Mae’r llun hyfryd hwn, a dynnwyd yn ddiweddar yn eu cartref yng Nghaint, o Anne a David Spencer. Rwy’n drist iawn o orfod dweud bod y ddau wedi’u lladd ddoe mewn damwain car ger eu cartref.
“Roedden nhw’n ffermwyr, yn hoff o anifeiliaid ac yn rhieni ffyddlon i Robert, Caryn, Helen a Philip ac yn caru eu wyth o wyrion. Yr unig fendith yw eu bod wedi marw gyda'i gilydd, felly ni fydd yn rhaid i un ohonynt fyth alaru colli ei gilydd.
“Rwy’n credu efallai y bydd llawer ohonoch am ymuno â mi i anfon cymaint o gariad at Phil a’i deulu i gyd.
“Cadwch nhw yn eich meddyliau a'ch gweddïau, diolch.”
Y gred yw bod car Mr a Mrs Spencer wedi gwyro i mewn i afon ger eu cartref ddydd Gwener, ac er ymdrechion y gwasanaethau brys, nid oedd modd achub y ddau.