Newyddion S4C

'O ni ffili cerdded, o ni ffili codi': Byw gyda 'hunllef' y cyflwr gastroparesis

20/08/2023

'O ni ffili cerdded, o ni ffili codi': Byw gyda 'hunllef' y cyflwr gastroparesis

Mae Luned Davies yn 22 oed ac yn dod o ardal Banwen yn Sir Castell-nedd Port Talbot.

Dair blynedd yn ôl fe dderbyniodd ddeiagnosis sydd wedi newid ei bywyd. Mae ganddi gyflwr cronig a phrin o'r enw gastroparesis.

Roedd hi mor sâl yn yr ysbyty ar un cyfnod fel y bu'n rhaid iddi baratoi ei hun i ffarwelio gyda'i theulu am byth.

Roedd y broses o gyrraedd ei deiagnosis yn “hunllef” meddai, ac yn un “rhwystredig” oherwydd cyn lleied o ymchwil a gwybodaeth sydd ar gael am y cyflwr.

Wrth siarad gyda Newyddion S4C yn ystod mis ymwybyddiaeth gastroparesis, dywedodd Luned: “Does neb yn deall, sai’n gallu relato i neb.

“Sai’n nabod unrhwyun arall sy’n mynd trwy yr un peth."

Mae gastroparesis yn gyflwr lle mae’r stumog wedi’i barlysu.

Mae’n anhywlder cronig, parhaol lle nad oes modd i'r stumog waredu bwyd yn y ffordd arferol.

Nid yw'r nerfau sydd fel arfer yn helpu cyhyrau'r i symud bwyd allan o'r stumog yn gweithio'n effeithiol. Mae hyn yn golygu bod y stumog yn gwagio bwyd yn rhy araf.

Dechreuodd Luned fynd yn dost ym mis Awst 2020.

“O ni’n sic a gyda bach o waed ond o ni ddim yn rili meddwl dim amdano fe - erbyn Hydref 2020 es i bant bwyd fi.

“O ni ddim moyn bwyd, o ni’n llawn trwy’r amser,” esboniodd.

Ond pan aeth Luned at y meddyg, nid oedd unrhwybeth yn ymddangos o’i le.

Ychwanegodd: “Ges i profion gwaed ond dim byd yn bod. Wedon nhw bod e gyd yn fy mhen i a dweud 'sdim byd yn bod, bloods yn fine, ma jyst isie ti fyta'.

“Ond o ni physically ddim yn gallu byta – beth bynnag o ni’n byta o ni mewn poen neu’n sic. Yn llawn ar ôl byta’r maint lleiaf o fwyd.

“Collais i bron i dri ston mewn tri mis."

Image
luned

Mae'n gyflwr anghyffredin yn ôl yr elusen GutsUK. Dim ond pedwar o bob 10,000 o bobl sydd yn dioddef gyda’r cyflwr drwy'r DU.

Mae’r cyflwr yn llai cyffredin mewn dynion, gyda un ym mhob 10,000 yn byw gyda gastroparesis.

Yn ôl GutsUK gall symptomau amrywio o berson i berson. Rhai o’r symptomau cyffredin yw:

  • Teimlad o gyfogi 
  • Chwydu 
  • Chwydu bwyd heb ei dreulio oriau ar ôl bwyta
  • Poen yn y stumog
  • Teimlo'n llawn ar ôl ychydig iawn o fwyd
  • Anallu i orffen pryd o fwyd
  • Chwyddo
  • Colli pwysau
  • Llosg cylla
  • Dadhydradiad o fod yn sâl

 

'Stryglo'

Mae Luned wedi profi sawl un o’r symptomau yma gan gynnwys colli pwysau sylweddol.

O’r herwydd, roedd yn rhaid iddi dderbyn sawl asesiad iechyd meddwl ar gyfer anhwylder bwyta.

“Nath hwnna torri fy nghalon i achos o ni’n gwybod doedd dim anhwylder bwyta gen i – na gyd o ni eisiau neud oedd byta.

“O ni’n byta lot, yn byta mwy na pawb arall. Ond achos o ni’n sic a odd corff fi ddim yn derbyn e, odd e jyst yn rejecto popeth,” esboniodd.

“Ma pobl yn gweld fi a ma nhw’n meddwl yn syth – ma hi moyn colli pwysau. Ond fi‘r gwrthwyneb - fi moyn byta ond fi jystt ffili.”

Bu rhaid i Luned gael tiwb 'NG' sef tiwb arbennig i'w bwydo – y cyntaf o dri y mae hi wedi ei dderbyn yn ystod ei chyfnod o salwch.

O ganlyniad i’w chyflwr, dechreuodd Luned golli ei gwallt hefyd.

“Odd gwallt fi’n cwympo mas, na be o ni’n stryglo da fyd. Achos o ni arfer cal gwallt rili hir a trwchus,” meddai.

Image
wallet

Dywedodd mai yn ystod mis Awst y llynedd oedd yr amser gwaethaf iddi.

“Des i nôl o'r Royal Welsh - ges i Covid am bythefnos, wedyn ges i pneumonia, yn syth ar ôl ny, chest infection ar ôl hwnna.

“Gollais i lot o bwysau - es i lawr i bump ston.

“O ti’n gallu gweld pob asgwrn, o ti’n gallu teimlo fe. O ni ffili cerdded, o ni ffili codi. O ni ffili golchi, o ni ffili gwisgo fy hunan.

“Odd en cal effaith ar bawb – mam, dad, mamgu, fagi (mamgu), brawd fi – so odd hwnna’n rili galed.”

'Sai moyn bod ma'

Erbyn diwedd mis Awst 2022, roedd yn rhaid i Luned a’i theulu baratoi am y gwaethaf.

“Es i mewn i’r ysbyty , a wedon nhw sdim lot o siawns ar ôl gyda fi - odd rhaid i fi ddweud ta-ta wrth mam, dad, Arwel.

“Sai di bod yn agos ato fe, ond o ni wastod yn meddwl, sai moyn bod ma rhagor, sai moyn bod ma.

“Yr unig peth nath cadw fi fynd odd, os o ni ddim ma, siwd bydd mam a dad? Siwd bydd pawb yn mynd mlan?

“O ni ddim yn hoffi’r effaith o ni’n cal ar bawb."

Ers i Luned adael yr ysbyty yn gryfach ddiwedd mis Medi, aeth yn ôl i mewn ym mis Tachwedd 2022 am gyfnod o dri mis.

Roedd hi’n lwcus i allu dreulio tridiau dros y Nadolig yn ei chartref cyn dychwelyd i’r ysbyty yn y flwyddyn newydd.

Cafodd ei rhyddhau o’r ysbyty ar 14 Ionawr, ac yna derbyn diagnosis swyddogol o gastroparesis wythnos yn ddiweddarach.

Image
luned a'i theulu
Luned a'i theulu

Mae’r cyflwr nid yn unig wedi cael effaith ar ei hiechyd, ond ei bywyd cymdeithasol hefyd.

Ar ôl colli ei dau ddant blaen yn sgil y tostrwydd, mae Luned esioes wedi derbyn dentures.

Ond treuliodd bron i wyth mis heb ddannedd blaen, meddai.

“Es i weithio yn y sioe, doeddwn i ddim eisiau colli mas ond nes i gasáu bob eiliad.

“Roedd pawb yn edrych ar fy ngheg i, yn galw fi'n enwau. Roedd pobl yn galw fi’n anorexic, beth bynnag ond nawr dechreuon nhw alw fi’n ‘gummy’, dweud o ni’n frwnt, ddim yn edrych ar ôl fy hunan.

“Ond dim bai fi roedd rhaid cal y dannedd mas a odd pobl ddim yn deall hwnna. Odd hwnna’n anodd delio gyda.”

Edrych mlaen tua'r dyfodol

Ers derbyn y diagnosis mae bywyd bob dydd fel “arbrawf” medd Luned.

“Ma rhaid fi addasu be fi’n neud. Fi yn cal amseroedd ble fi yn stryglo. Weithiau fi’n gallu byta rhywbeth, fel wy - ond fory nai neud yr un peth a sai gallu delio gyda fe.

“Mae’n rhaid i fi fyta pethau mwyaf plaen posib. Ond mae’n dibynnu hefyd ar siwd ma fe di coginio. Sai’n gwybod beth sydd yn mynd i aros lawr."

Mae Luned yn gobeithio dychwelyd i brifysgol Harper Adams ym mis Medi i gwblhau ei gradd Amaeth a Busnes.

“Ma fe fel bach o second chance, ma rhaid ti trial edrych ar rhywbeth positive, achos os ti’n edyrch ar y negative ti ddim mynd i fynd unrhywle.

“Bydde ni ddim moyn unrhyw un i fynd trwy beth fi di mynd trwyddo ond eto ma pobl mas na yn mynd trwy waeth na beth fi’n mynd trwyddo.

“Fi di rhannu stori fi ar Facbook ond dim achos fi moyn sylw, fi’n neud e i godi ymwybyddiaeth.

“O ni byth di clywed amdano fe o’r blaen, s’neb yn gwybod beth ma fe’n meddwl.”

Mae hi hefyd yn bwriadu gwneud naid o awyren i godi arian ac ymwybyddiaeth am y cyflwr.

Dywedodd llefarydd ar ran elusen GutsUK wrth Newyddion S4C: “Mae gastroparesis yn gyflwr sy’n cael ei danariannu ac sy’n cael ei gamddeall, ac i lawer, mae diffyg opsiynau triniaeth effeithiol ar gael.

"Gall hyn wneud i bobl sy'n byw gyda gastroparesis deimlo'n unig, yn ddryslyd a heb gefnogaeth.  Gall fod yn deimlad anodd iawn fel nad oes gennych unrhyw le i droi.

“Mae Guts UK yma i gefnogi’r rhai sydd â gastroparesis, p’un a ydych yn chwilio am wybodaeth arbenigol i gleifion, neu angen siarad â rhywun a fydd yn deall”.

Os ydy'r wybodaeth yn yr erthygl hon wedi peri gofid neu os oes angen cefnogaeth arnoch, mae cymorth ar gael yma: https://www.s4c.cymru/cy/cymorth/ 

Newyddion diweddaraf

Mae'r wefan hon yn defnyddio cwcis i sicrhau eich bod chi'n cael y profiad gorau ar ein gwefan.