Newyddion S4C

Penwythnos Gŵyl y Dyn Gwyrdd ym Mhowys

19/08/2023
NS4C

Mae Gŵyl y Dyn Gwyrdd yn dychwelyd eto eleni i Grughywel ym Mhowys.

Mae’n un o ŵyliau cerddorol, celfyddydol mwyaf Cymru ac wedi cael ei chynnal ers dros 20 mlynedd.

Bydd y digwyddiad yn cynnwys perfformiadau gan berfformwyr adnabyddus o Gymru, ac yn eu plith mae Melin Melyn ac H Hawkline

Fel arfer mae gan y digwyddiad ym Mharc Glan Wysg le i 60,000 o bobl ac yn ôl y trefnwyr, mae'n cyfrannu tua £15m tuag at economi Cymru bob blwyddyn.

Mae prif ddiwyddiadau Gŵyl y Dyn Gwyrdd yn cael eu cynnal rhwng 17 a 20 o Awst. Ymhlith y prif artistiaid, mae Self Esteem, The Walkmen a Confidence Man.

Newyddion diweddaraf

Mae'r wefan hon yn defnyddio cwcis i sicrhau eich bod chi'n cael y profiad gorau ar ein gwefan.