Canllawiau newydd ar ddefnydd ffonau symudol mewn ysgolion
Bydd Llywodraeth Cymru yn cyflwyno canllawiau newydd ar gyfyngu defnydd ffonau symudol mewn ysgolion.
Cyhoeddodd y gweinidog addysg, Anna Brychan, brynhawn Mawrth y bydd cyfnod o ymgynghori yn cael ei gynnal cyn i'r canllawiau ddod i rym.
Mae'r llywodraeth wedi cyhoeddi canlyniadau arolwg, sy'n dweud bod mwy nag 80% o bobl sy'n gweithio ym myd addysg yn credu bod angen cyflwyno cyfyngiadau statudol.
Yn ôl Anna Brychan, bydd penaethiaid ysgolion yn cael eu "hannog yn gryf" i gyfyngu ar ddefnydd disgyblion ysgol o ffonau symudol.
Dywedodd y bydd yn cefnogi penaethiaid ysgol, wrth iddyn nhw lunio eu polisiau.
Ond mae Plaid Cymru wedi nodi na fyddan nhw'n gwahardd ffonau o ysgolion, gan ddweud bod rhai plant eu hangen oherwydd rhesymau meddygol.
Wrth ymateb i'r cyhoeddiad, dywedodd Comisiynydd Plant Cymru, Rocio Cifuentes bod rhai grwpiau o blant, er enghraifft rhai ag anghenion dysgu ychwanegol neu ofalwyr ifanc yn dibynnu ar eu ffonau am amrywiol resymau.
Pwysleisiodd bod angen ystyried y mater yn ofalus a thrylwyr yn hytrach na'i "gyflwyno dros nos."
Daw'r cyhoeddiad ddiwrnod wedi i Lywodraeth y DU gyhoeddi y bydd yn gwahardd plant dan 16 oed rhag defnyddio’r cyfryngau cymdeithasol.
Mewn cynhadledd i’r wasg fore Llun, cyhoeddodd Syr Keir Starmer y byddai’r gwaharddiad yn dod i rym “yn ystod rhan gyntaf y flwyddyn nesaf”.
Dywedodd ei fod yn hyderus y gallai’r gwaharddiad fod yn effeithiol, ond cyfaddefodd y byddai rhai plant yn dod o hyd i ffyrdd o’i osgoi.