Y nyrs Lucy Letby yn euog o lofruddio saith o fabanod
Mae'r nyrs Lucy Letby wedi ei chael yn euog o lofruddio saith o fabanod ac o geisio llofruddio chwech arall mewn uned newydd-anedig mewn ysbyty.
Dywedodd erlynwyr fod Letby, 33, wedi defnyddio gwendidau babanod sâl a babanod a gafodd eu geni yn gynnar er mwyn cuddio ei gweithredoedd.
Defnyddiodd amryw o ffyrdd gwahanol i frifo'r babanod gan gynnwys chwistrellu aer i'w llif gwaed a'u stumogau.
Roedd rhai o'r plant yn destun sawl ymgais i'w lladd gan y nyrs "oer a chreulon".
Yn 2015 a 2016, roedd yna gynnydd sylweddol yn y nifer o fabanod a wnaeth ddioddef gwaeledd difrifol ac annisgwyl mewn uned newydd-anedig yn Ysbyty Iarlles Caer yng Nghaer.
Letby oedd yr unig aelod o’r staff nyrsio a chlinigol ar ddyletswydd bob tro y gwnaeth hyn ddigwydd, a dywedodd erlynwyr y Goron nad oedd y digwyddiadau yma yn rhai naturiol.
Daeth uwch-reolwyr yn ymwybodol o bresenoldeb Letby pan y gwnaeth yr achosion hyn ddigwydd ar ddiwedd Mehefin 2015.
Fe wnaeth pryderon ymysg rhai meddygon ymgynghorol am Letby i reolwyr yr ysbyty gynyddu pan y gwnaeth rhagor o achosion annisgwyl gynyddu.
Ond ni chafodd Letby ei thynnu o’r uned tan ar ôl marwolaeth dau set o dripledi ac wedi i gyflwr baban arall waethygu ar dri diwrnod yn olynol ym mis Mehefin 2016.
Cafodd Letby ei chyfyngu i waith clerigol ac ym mis Medi 2016, fe wnaeth gofrestru gweithdrefn gwyno.
Heb weithgor, daeth i’r amlwg yn ystod yr achos fod y weithdrefn gwyno wedi ei datrys o blaid Letby ym mis Rhagfyr 2016.
Roedd Letby i fod i ddychwelyd i’r uned newydd-anedig ym mis Mawrth 2017 ond ni wnaeth ddigwydd wedi i ymddiriedolaeth yr ysbyty gysylltu â’r heddlu.
Cafodd y nyrs ei harestio yn ei chartref yng Nghaer ar 3 Gorffennaf 2018.
Wrth i’r heddlu chwilio drwy ei chartref, cafodd nifer o nodiadau eu darganfod.
Roedd y rhain yn cynnwys negeseuon megis “Dwi ddim yn haeddu byw. Fe wnes i eu llofruddio ar bwrpas oherwydd nad ydw i ddigon da i edrych ar eu holau nhw.”