Cymru yn herio De Affrica yn eu gêm olaf cyn Cwpan y Byd
Bydd Cymru yn herio De Affrica yn Stadiwm y Principality ddydd Sadwrn yn eu gêm olaf cyn Cwpan y Byd yn Ffrainc fis Medi.
Bydd Jac Morgan yn gapten am yr eildro wrth i dîm Warren Gatland wynebu'r Springboks.
Y blaenasgellwr Dan Lydiate a'r wythwr Aaron Wainwright fydd yn ymuno â Jac Morgan yn rheng ôl Cymru.
Bydd Tom Rogers ar yr asgell yn hytrach nag Alex Cuthbert sydd wedi tynnu yn ôl wedi iddo deimlo tyndra yn ei goes.
Ni fydd Dan Biggar a Liam Williams yn chwarae yn y gêm ddydd Sadwrn, a hynny oherwydd mân anafiadau, gyda Sam Costellow a Cai Evans yn cymryd eu lle.
Bydd tîm Warren Gatland yn gobeithio am ddiwedd cadarnhaol i'r gemau paratoadol cyn Cwpan y Byd, yn dilyn un fuddugoliaeth ac un golled yn erbyn Lloegr dros y pythefnos diwethaf.
Mae'r gêm yn gyfle i nifer o chwaraewyr geisio perswadio Warren Gatland i'w dewis yn ei garfan o 33 chwaraewr i fynd i Ffrainc, gyda'r cyhoeddiad hwnnw yn cael ei wneud ddydd Llun yn fyw ar Newyddion S4C.
Mae Gatland wedi dewis Johnny Williams a Mason Grady yng nghanol y cae ar gyfer y gêm, gyda'r pâr wedi chwarae cyfanswm o wyth gêm brawf.
Ar y llaw arall, mae Damian de Allende a Jesse Kriel wedi chwarae cyfanswm o 133 gêm i'r Springboks yn yr un safleoedd.
Ers 1906, mae Cymru a De Affrica wedi wynebu ei gilydd 40 o weithiau, gyda Chymru yn ennill saith gwaith, un gêm gyfartal a'r Springboks yn trechu Cymru 32 o weithiau.
Dywedodd Warren Gatland: "Mae'r paratoadau wedi mynd yn dda. Ry’n ni’n hapus iawn gyda'r garfan gyfan. Ry’n ni’n ceisio adeiladu rhywfaint o ddyfnder o fewn y tîm ac mae’r awyrgylch wedi bod yn wych yn ystod ein hamser gyda’n gilydd.
"Yn y ddwy gêm gyntaf – fe brofon ni ein bod yn gallu bod yn hynod gorfforol ac yn gallu amddiffyn yn dda hefyd. Fe gefais fy mhlesio’n fawr gan hynny.
Bydd y gic gyntaf am 15:15 ddydd Sadwrn yn Stadiwm y Principality.