Canolfan gelfyddydol newydd Bangor yn 'hwb i greadigrwydd'

Newyddion S4C 17/08/2023

Canolfan gelfyddydol newydd Bangor yn 'hwb i greadigrwydd'

Bydd canolfan gelfyddydol newydd ym Mangor yn hwb i greadigrwydd a’r sector greadigol yng ngogledd Cymru, yn ôl artistiaid lleol.

Wedi buddsoddiad o £4.5m, mae canolfan Nyth, sy’n eiddo i gwmni Theatr Frân Wen yn paratoi i agor y drysau’n swyddogol ddiwedd yr Haf ond eisoes mae'n  llawn bwrlwm.

Mae’r ganolfan wedi ei lleoli mewn hen eglwys yng nghanol dinas Bangor, sydd wedi ei thrawsnewid i gynnwys sawl stiwdio, neuaddau ymarfer ac ardaloedd i weithwyr goleuo a sain i weithio. 

Er nad ydi’r ganolfan wedi agor yn swyddogol, mae sawl cynhyrchiad eisoes yn gwneud defnydd o’r safle cyn mentro ar deithiau ledled Cymru. 

Er mwyn creu mynedfa hygyrch roedd yn rhaid tyllu dan ddaear i greu gofod gwastad a newydd, sydd hefyd wedi rhoi cyfle i osod swyddfeydd newydd a mannau cymunedol. 

Dod â phobl at ei gilydd

Yn ôl cwmni Frân Wen mi oedd awydd pendant gan y cwmni a’r bobl ifanc ynghlwm i wneud defnydd o hen adeilad gwag yn hytrach na chodi adeilad newydd. 

“Mae’r pensaer wedi gwneud gwaith arbennig yn dod a’r hen a’r newydd at ei gilydd”, meddai Cyfarwyddwr Artistig  Frân Wen, Gethin Evans. 

“Mae’r adeilad yn listed felly oedda ni eisiau gwarchod y treftadaeth yna ond hefyd dod a bywyd newydd”. 

Wrth ymweld a Nyth mi oedd nifer o bobl ifanc yn sgriptio, ymarfer eu crefft ac yn paratoi am gynyrchiadau, a Hedydd Ioan ydi un ohonyn nhw. 

“Mae’n mynd yn ôl rhyw bum mlynedd... mwy rŵan... pan oni’n bymtheg oed yn ymwneud a Frân Wen fel rhywun ifanc ac wrth weithio ar brosiectau Haf, oedd son am yr adeilad newydd oedd am ddod. 

“Dwi’n meddwl fod o wedi dod a fi a lot o’r bobl ifanc sy’n gweithio efo’r cwmni yn agos i’r adeilad a ‘da ni’n teimlo rhyw berchnogaeth dwi’n meddwl”. 

Mae Nyth yn cynnwys gofodau eang i ymarfer a mannau distaw i sgriptwyr a chyfarwyddwyr. 

Image
franwen

Un o’r mannau mwyaf trawiadol yw rhan hyna’r eglwys sydd bellach yn ofod eang i ymarferion. 

“Ma’n hollol hyblyg”, meddai Gethin Evans. 

“Da ni’n gallu dod a seti allan, da ni’n gallu dod a pherfformiadau informal mlaen, a mae na ymarferion yn digwydd ar hyn o bryd”. 

“Y gobaith yw ei fod o'n wahoddiad i greu o’r newydd, ac i gymunedau a phobl ifanc greu o’r newydd ond hefyd i fynegi eu hunain”. 

“Ma’n rhan diddorol a phwysig o’r sector greadigol yn yr ardal ac i artistiaid gael y gofod i greu”. 

Ers prynu’r adeilad nol yn 2019 mae’r gwaith adnewyddu wedi bod yn sylweddol, gyda chyllid wedi dod o sawl ffynhonnell, fel y loteri genedlaethol a Llywodraeth Cymru. 

Wedi blynyddoedd o actio ac ymarfer mewn hen siop sgidiau ar stryd fawr Bangor, mae actorion ifanc eisoes yn cymryd mantais. 

“Dwi’n meddwl ma na wastad wedi bod stigma o ran pobl sydd eisiau gwneud rhywbeth yn y celfyddydau”, meddai Tesni Hughes sy'n actor ifanc. 

“Does na’m lot o gyfleodd ‘da chi’n clywed am, ond rŵan ma nyth yn massive, da chi methu methu fo felly ma cael lle mor fawr, lle mor poblogaidd efo sioeau poblogaidd yn digwydd – ma gynno ni rhywbeth i neud a fydd pobl yn iwsio fo dwi’n meddwl”. 

Mi fydd Nyth yn agor yn swyddogol ddiwedd yr haf.

Newyddion diweddaraf

Mae'r wefan hon yn defnyddio cwcis i sicrhau eich bod chi'n cael y profiad gorau ar ein gwefan.