Sylwadau Esgob Tyddewi am y Ceidwadwyr yn 'anoddefgar'
Mae arweinydd y blaid Geidwadol yng Nghymru, Andrew RT Davies, wedi galw sylwadau Esgob Tyddewi yn "anoddefgar".
Daw hyn ar ôl i'r Esgob Joanna Penberthy drydar ar ei chyfrif personol yn mis Mawrth yn argymell ei dilynwyr ar Twitter i beidio "ymddiried mewn Ceidwadwr".
Erbyn hyn, mae'r sylwadau wedi'u dileu o gyfrif Twitter yr Esgob ac mae hi wedi ymddiheuro.
Mewn datganiad ar wefan Esgobaeth Tyddewi, dywedodd yr Esgob: "Ar 25 Mawrth 2021, nes i gyhoeddi trydar preifat am gefnogwyr y Blaid Geidwadol sydd wedi achosi tramgwydd ac am hynny rydw i'n wirioneddol yn ymddiheuro.
"Roedd y sylw mewn ymateb i drydar arall a oedd yn honni bod y Blaid Geidwadol yn cynllunio diddymu'r Senedd. Rydw i'n cydnabod er bod yna rhai o fewn y Blaid Geidwadol yn gwrthwynebu datganoli yng Nghymru, nid yw hi'n bolisi gan y Blaid Geidwadol i ddiddymu'r Senedd a dylwn fod wedi gwirio'r holl ffeithiau cyn cyhoeddi'r sylw.
"Rydw i, wrth gwrs, yn ac wedi ymddiried mewn nifer o Geidwadwyr ac yn ymwybodol fod yna nifer o aelodau anrhydeddus o fewn y blaid."
Fodd bynnag, dywedodd Andrew RT Davies fod sylwadau o'u math yn "peri pryder" i lawer o blwyfolion yng ngorllewin Cymru.
"Fe fydd y sawl sylw ysgarol ac anoddefgar sydd yn cael eu cyhoeddi gan y cyfrif cyhoeddus hwn gan Esgob Tŷ Ddewi yn peri pryder i nifer o blwyfolion yng ngorllewin Cymru," ychwanegodd Mr Davies.
"Nid yw hyn yn edrych yn dda i'r Eglwys yng Nghymru."
Llun: Google