Galw am ailystyried polisi mynediad am ddim i amgueddfeydd cenedlaethol Cymru
Galw am ailystyried polisi mynediad am ddim i amgueddfeydd cenedlaethol Cymru
Fe ddylai'r polisi mynediad am ddim i amgueddfeydd cenedlaethol Cymru gael ei ailystyried yn sgil pwysau ariannol, yn ôl cyn-weinidog treftadaeth.
Dywedodd Alun Ffred Jones y gall talu am fynediad wella cynnig Amgueddfa Cymru ac ehangu ei apêl.
Daw ei sylwadau ar ôl i adroddiad newydd rybuddio bod dirywiad yn ansawdd arlwy yr amgueddfa yn "anochel" oni bai bod modd cyflwyno mwy o hyblygrwydd i'r ffynonellau incwm.
Mae Llywodraeth Cymru yn dweud y bydden nhw'n edrych ar ei argymhellion a datblygu cynllun gweithredu.
Mae gan Amgueddfa Cymru saith o safleoedd ac maen nhw’n cadw, cyflwyno a hyrwyddo diwylliant y wlad.
Dydi Cymru, fel gweddill y Deyrnas Unedig, ddim yn codi tâl mynediad i amgueddfeydd.
Cafodd y polisi hwnnw ei gyflwyno gan Lywodraeth Cynulliad Cymru yn 2002.
Fe sefydlwyd yr Adroddiad Teilwredig Amgueddfa Cymru yn Awst 2022, a oedd yn cynnig argymhellion am lywodraethu Amgueddfa Cymru ar gydraddoldeb, amrywiaeth a chynhwysiant; partneriaethau a pherthnasoedd a mwy.
Bu'n cael ei arwain gan David Allen, cyn-gadeirydd Cyngor Cyllido Addysg Uwch Cymru .
Fe edrychodd ar berfformiad yr amgueddfa, ei threfniadau llywodraethu ac effeithiolrwydd ei gwasanaethau.
Un o'i gasgliadau oedd y dylai’r polisi mynediad am ddim barhau, ond bod angen "ystyried ymhellach" codi tâl am arddangosfeydd arbennig, er bod hynny'n digwydd eisoes.
Fe ddisgrifiodd Mr Allen Amgueddfa Cymru fel un o "brif drysorau" diwylliant y wlad, ond rhybuddiodd bod rhaid ehangu ei apêl i fwy o gymunedau a phobol.
"Os nad ydi'r amgueddfa yn cydbwyso ei incwm yn well gyda chostau yna mewn cwpwl o flynyddoedd fe fydda nhw'n wynebu anawsterau mawr o ran cynnal yr adeiladau a chadw'r staff i gyd," meddai.
Radical
Roedd Alun Ffred Jones yn weinidog treftadaeth Plaid Cymru yng nghlymblaid y blaid gyda Llafur rhwng 2008 a 2011.
Fe bwysleisiodd ei fod yn gefnogol i'r polisi mynediad am ddim, ond dywedodd bod y sefyllfa ariannol yn edrych yn anodd i bob maes dros y blynyddoedd nesa.
"Felly mae'n rhaid i chi feddwl yn radical a bod yn barod i wynebu rhai pethau sydd falla ddim yn dderbyniol i'r rhan fwyaf o bobol ond efallai fyddai'n rhoi cyfle i chi ail drefnu i gyrraedd mwy o bobol a gwneud i rai pobol dalu," meddai.
"Mae hynny'n beth cyffredin iawn mewn llawer o orielau ac amgueddfeydd a dwi'n meddwl bod rhaid o leiaf ystyried hynny fel ffordd o wella'r gwasanaeth a sicrhau fod o'n cyrraedd mwy o bobol yn holl ardaloedd Cymru."
Os ydi'r gwasanaeth yn dirywio, meddai, "dwi ddim yn gwybod pwy sydd ar eu hennill...a rhaid edrych ar ffyrdd eraill i godi pres".
Roedd ymwelwyr i'r Big Pit, Amgueddfa Lofaol Cymru, yn Nhorfaen yn dweud nad oedd ganddyn nhw deimladau cryf am y syniad o dâl mynediad.
"Fe fyddwn i yn barod i dalu," meddai Dan Phillips o Swydd Efrog oedd ar wyliau efo'i deulu.
"Ond mae'n wych ei fod am ddim oherwydd mae'n golygu bod gymaint mwy o bobol yn gallu ei ddefnyddio. Fe fyddai'n gwario arian yn y siop fodd bynnag."
Dywedodd Emma o Ogledd Dyfnaint: "Ry'n ni wedi bod i lefydd lle bu'n rhaid talu fel Rheilffordd Mynydd Brycheiniog ac mae'n helpu i gynnal a chadw'r lle felly mi fyswn i'n hapus i dalu."
Yn y flwyddyn cyn y pandemig yn 2019-2020, bu dros 1.8 miliwn o bobol yn ymweld â'r amgueddfeydd.
Ond yn y flwyddyn i fis Mawrth 2023, fe ostyngodd y nifer yr ymwelwlr bron 28% i 1.3 miliwn.
Llywodraeth Cymru sy'n darparu rhan fwyaf o arian Amgueddfa Cymru gyda 80% hynny yn dod drwy grant.
Dywedodd Dawn Bowden A.S., y dirprwy weinidog dros y celfyddydau a diwylliant: "Rwyf wedi gofyn i’m swyddogion weithio drwy'r adroddiad terfynol gydag Amgueddfa Cymru i edrych ar oblygiadau pob argymhelliad a datblygu cynllun gweithredu a llinell amser."