'Does dim wedi newid': Y Dreigiau 'yn gadael cyfarfod' gydag Undeb Rygbi Cymru

Rodney Parade - Llun Huw Evans

Mae'r Dreigiau wedi dweud nad ydy cynlluniau Undeb Rygbi Cymru ar gyfer y gêm broffesiynol "yn hyfyw nac yn ddymunol" ar ôl gadael cyfarfod gyda'r Undeb. 

Mewn datganiad ddydd Mercher, dywedodd y clwb fod y Cadeirydd David Wright a'r prif weithredwr Rhys Blumberg wedi gadael cyfarfod ychydig wedi iddo ddechrau gyda'r Undeb ar 6 Tachwedd.

Dywed y clwb ei bod hi "wedi ymddangos yn eithaf sydyn ar ôl i'r cyfarfod ddechrau nad oedd Undeb Rygbi Cymru yn barod i wneud newidiadau i'w trefniadau llywodraethu arfaethedig.

"Fe wnaethon ni adael y cyfarfod yn fuan wedyn. 

"Yn fras, nid oedd dim wedi newid, roedd Undeb Rygbi Cymru yn dal i fynnu rheoli pob mater yn ymwneud â rygbi ac yn mynnu eu bod yn cyflogi chwaraewyr, hyfforddwyr a'r holl staff cymorth yn uniongyrchol."

Dywed y clwb eu bod nhw wedi disgwyl cael cyfarfod cadarnhaol gyda'r Undeb yn dilyn y cyhoeddiad y byddai rygbi proffesiynol yn parhau yng Ngwent. 

Ychwanegodd y clwb: "Nid yw rheolaeth ganolog gan Undeb Rygbi Cymru ar bob gweithgaredd rygbi yn dderbyniol, ac nid yw er budd perchnogion clybiau chwaith, sy'n disgwyl bod yn gwbl gyfrifol ac atebol am weithrediadau rygbi, sydd yn elfen allweddol a sylfaenol o'r clwb a'r busnes a gafodd ei brynu gennym ni."

Mae Undeb Rygbi Cymru wedi cadarnhau eu cynlluniau i gwtogi nifer y rhanbarthau o bedwar i dri erbyn 2028.

Mae'r undeb wedi cadarnhau y bydd un tîm wedi ei leoli yn ardal y Brifddinas, un yn Nwyrain Cymru a’r llall yn y Gorllewin. 

Ond mae gan y Dreigiau bryderon mawr gan fod yr Undeb yn mynnu cymryd rheolaeth o faterion rygbi a gadael y clybiau gyda dyletswyddau masnachol yn unig. 

Maen nhw'n dweud na fyddai gan glybiau proffesiynol unrhyw reolaeth am benderfyniadau rygbi yn ymwneud â hyfforddi, recriwtio chwaraewyr a dewis tîm.

Dywedodd y Cadeirydd David Wright: "Gyda'r Dreigiau, does dim bwriad o gytuno i unrhyw strwythur sy'n cael gwared o reolaeth y clwb ar yr hyn sy'n digwydd ar y cae.

"Mae cefnogwyr yn deall fod yn rhaid i'w tîm gael ei ddewis gan eu clwb."

Mae Newyddion S4C wedi cysylltu gydag Undeb Rygbi Cymru am ymateb.

Newyddion diweddaraf

Mae'r wefan hon yn defnyddio cwcis i sicrhau eich bod chi'n cael y profiad gorau ar ein gwefan.