Storm Claudia: Cymorth ariannol ar gael i bobl gafodd eu heffeithio

Llifogydd Trefynwy

Mae Llywodraeth Cymru wedi cyhoeddi y bydd rhai pobl yn Sir Fynwy yn derbyn cymorth ariannol yn sgil effeithiau Storm Claudia yno yr wythnos ddiwethaf.

Fe fydd y gefnogaeth yn cynnwys grantiau a fydd yn cael eu cyflwyno gan Gyngor Sir Fynwy ar gyfer cartrefi sydd wedi eu heffeithio.

Mae grantiau ar gael o £1,000 a £500 i bob cartref a gafodd ei effeithio gan y llifogydd yn ogystal â gostyngiad ar dreth cyngor.

Fe gyhoeddodd Gwasanaeth Tân ac Achub De Cymru “ddigwyddiad difrifol” yn Nhrefynwy ddydd Sadwrn ar ôl i’r ardal gael ei tharo’n wael gan lifogydd Storm Claudia. 

Fe ddaeth y cyhoeddiad i rym am 01.30 oriau man fore Sadwrn yn dilyn llifogydd “difrifol ac eang” yn y dref a chymunedau cyfagos.  

Roedd yn rhaid i bobl gael eu hachub o'u cartrefi nos Sadwrn yn Nhrefynwy a'r Fenni, ac roedd busnesau hefyd o dan ddŵr, gyda modfeddi o law yn achosi anhrefn ar y brif stryd siopa yn Nhrefynwy. 

Yn ôl Cyfoeth Naturiol Cymru, cododd lefel Afon Mynwy i'w lefel uchaf erioed, yn uwch na'r hyn a gafodd ei gofnodi yno adeg storm Dennis yn 2020 a Storm Bert y llynedd.  

Fe wnaeth tîm o wirfoddolwyr y Groes Goch roi cymorth i bobl a gafodd eu gorfodi i adael eu cartrefi mewn canolfan hamdden yn ardal Trefynwy hefyd.

Image

Dywedodd Ysgrifennydd y Cabinet dros Dai a Llywodraeth Leol, Jayne Bryant: "Mae ymateb Cyngor Sir Fynwy wedi bod yn aruthrol wrth gefnogi anghenion y gymuned yn dilyn Storm Claudia. 

"Bydd y cyllid hwn yn cefnogi costau gyda phopeth o wacáu pobl a darparu bwyd i gael gwared ar wastraff cartref a llogi cerbydau a pheiriannau ychwanegol."



 



 





 

Newyddion diweddaraf

Mae'r wefan hon yn defnyddio cwcis i sicrhau eich bod chi'n cael y profiad gorau ar ein gwefan.