Rishi Sunak yn amddiffyn y defnydd o'r Bibby Stockholm i gartrefu mudwyr
Mae’r Prif Weinidog wedi amddiffyn penderfyniad Llywodraeth y DU i gadw mudwyr ar gwch Bibby Stockholm er gwaethaf cyfres o broblemau.
Dywedodd Rishi Sunak fod dull y Llywodraeth o ymdrin â mudwyr oedd yn croesi'r Sianel yn decach i’r trethdalwr na rhoi ceiswyr lloches mewn gwestai.
Cafodd rhai mudwyr eu lleoli ar y llong oddi ar arfordir Dorset ddydd Llun yr wythnos ddiwethaf.
Ond fe gawson nhw eu symud ddydd Gwener pan ddarganfuwyd olion clefyd y lleng filwyr yn y cyflenwad dŵr, sef math o facteria all achosi clefyd allai fod yn angheuol.
Fe wnaeth Mr Sunak osgoi ateb cwestiwn uniongyrchol oedd yn gofyn os oedd wedi ei rybuddio'n bersonol am risgiau iechyd posibl i geiswyr lloches ar fwrdd y llong.
“Yr hyn sydd wedi digwydd yma yw ei bod yn iawn ein bod yn mynd trwy’r holl wiriadau a gweithdrefnau i sicrhau lles ac iechyd y bobl sy’n cael eu cartrefu ar y cwch,” meddai ar ymweliad ag ysbyty yn Milton Keynes.
'Datrys'
Aeth Mr Sunak, sydd wedi dychwelyd i’w waith ar ôl gwyliau teuluol yng Nghaliffornia, ymlaen i ddadlau bod gweinidogion yn cymryd agwedd deg pan ddaeth i’r argyfwng cychod bach, gan ychwanegu: “Ond gan gymryd cam yn ôl, beth yw pwrpas hyn? Mae hyn yn ymwneud â thegwch.
“Mae’n ymwneud â’r annhegwch, mewn gwirionedd, wrth i drethdalwyr Prydain dalu £5 miliwn neu £6 miliwn y dydd i gartrefu mudwyr anghyfreithlon mewn gwestai ar hyd a lled y wlad, gyda’r holl bwysau sy’n cael ei roi ar gymunedau lleol.
“Mae'n rhaid i ni ddod o hyd i ddewisiadau eraill yn lle hynny, dyna hanfod y cwch a dyna pam rydyn ni wedi ymrwymo iddo.
“Ond yn fwy sylfaenol, mae’n rhaid i ni atal pobl rhag dod yma yn anghyfreithlon yn y lle cyntaf. Dyna pam mai un o’m pum blaenoriaeth yw atal y cychod.
“Rydym wedi pasio deddfau newydd llym a fydd, pan fyddant yn dod i rym, yn ein galluogi i wneud hynny ac rydym eisoes yn gweld niferoedd eleni sy’n is nag yn y blynyddoedd blaenorol. Dyna’r tro cyntaf i hynny ddigwydd.
“Rwy’n gwybod bod llawer o ffordd i fynd ond rwy’n benderfynol o ddatrys y broblem hon ac rydym yn gwneud cynnydd a gall pobl fod yn dawel eu meddwl y byddwn yn parhau i wneud hynny.”
Roedd y gweinidog iechyd Will Quince wedi awgrymu’n gynharach y gallai mudwyr ddychwelyd i’r cwch o fewn dyddiau.
Ond dywedodd mai dim ond pan fydd yn ddiogel i wneud hynny y bydd mudwyr yn dychwelyd i'r llong, sydd wedi'i hangori ym Mhorthladd Portland, Dorset.