Newyddion S4C

Ystafell arbennig yn rhoi cyfle i bobl ag anghenion ychwanegol wylio pêl-droed byw

15/08/2023

Ystafell arbennig yn rhoi cyfle i bobl ag anghenion ychwanegol wylio pêl-droed byw

Mae Clwb Pêl-droed Dinas Abertawe yn sicrhau bod cefnogwyr sydd ag anghenion ychwanegol yn cael cyfle i wylio'u gemau yn fyw mewn awyrgylch diogel a chyfforddus, ac mae'r ymateb yn arbennig, medd y trefnwyr.

Mae'r ystafell synhwyraidd yn y Stadiwm Swansea.com wedi cael ei llunio gan Gymdeithas Cefnogwyr Anabl y clwb.

Cath Dyer yw ysgrifenyddes y gymdeithas, sydd wedi gweithio gyda'r National Autism Society i osod yr ystafell.

"Roeddwn ni eisiau rhoi'r cyfle i bobl sydd ffili dod i'r pêl-droed fel arfer i ddod mewn," meddai.

"Ma' drysau gwydr ar yr ystafell so ma pawb yn gallu gweld y gêm, gweld beth sy'n digwydd, gweld y warm-ups, gweld hanner amser.

"Ond, ma' nhw mewn lle tawel, llonydd, preifat, s'neb yn poeni nhw, ma nhw'n gallu bloco'r sŵn mas os ma' angen a jyst ymlacio.

Mae'r ystafell yn cynnwys nifer o bethau er mwyn helpu creu awyrgylch tawel a diogel i'r cefnogwyr.

Image
Cath Dyer- Ysafell Synhwyraidd yr Elyrch
Teganau yw un o'r nifer o bethau sydd ar gael i'r cefnogwyr.

Mae teganau, taflunydd, chwilair, seinydd cerddoriaeth a llawer mwy yno.

Un peth sydd yn wahanol i ystafelloedd mewn stadiymau eraill yw'r drysau gwydr, fel bod modd gwylio'r gêm o'r ystafell.

"Chi'n dod mewn, ma'r golau 'mlaen, ma' pob dim yn 'mlaen yn barod," meddai Ms Dyer.

"A 'ma teganau sensory mewn 'na, wordsearches, beiros, llyfrau bach i liwio.

"Ma' nhw'n lico wotsho'r gêm, ond rhai weithiau 'ma plant bach, oedolion, pobl gydag anghenion, ma' nhw ffili edrych ar 90 munud 'so ma pethe arall 'da nhw neud tu fewn i'r ystafell hefyd."

Profiad

Mae nifer o gefnogwyr wedi defnyddio'r ystafell ers iddo gael ei chyflwyno, gyda llawer yn diolch i Cath Dyer a'r Gymdeithas Cefnogwyr Anabl am y profiad.

"Pawb sy'n dod mewn ac yn defnyddio'r ystafell, 'na gyd fi'n cael yw, 'O ystafell grêt, diolch yn fawr am y profiad. Popeth yn grêt'.

"Ma' nhw'n gallu cued y drws os mae'r sŵn yn mynd rhy uchel. Ma' nhw gallu edrych tu ôl y gwydr os ma nhw mo'yn temptio i ddod mas wedyn.

"Ma' nhw'n cael y cyfle i wneud beth ma nhw mo'yn i gadw nhw'n esmwyth, popeth. Ma' nhw'n ddigon hapus i fod 'ma ac yn eu ffordd eu hunain nhw hefyd."

Safle i bawb

Ers creu'r ystafell, mae'r clwb wedi mynd ati i sicrhau bod gan bob cefnogwr fynediad at safle tawel a diogel yn ystod gemau.

Ym mis Gorffennaf 2022 cyflwynodd y clwb ystafell gynhwysiant lle mae cefnogwyr sydd yn gwylio yn yr eisteddleoedd yn medru mynd draw iddi, os ydynt eisiau llonydd.

Fe all pob un cefnogwr ddefnyddio'r ystafell os ydy'r amodau yn y stadiwm yn eu llethu, ac mae adnoddau ar gael i gefnogwyr sydd â dementia, gorbryder neu gyflyrau tebyg.

Mae gwylio'r gêm yn dal yn bosibl tra yn yr ystafell honno.

"Ma' cefnogwyr yn gallu gofyn i stiward os ma nhw'n gallu defnyddio'r ystafell cynhwysiant. S'dim rhaid gweud beth sydd beth neu pam maen nhw mo'yn defnyddio fe", medd Cath Dyer.

"Mae'r stiward yn cymryd nhw mewn i'r ystafell, mae sgrin yn dod lawr, ma' teledu mewn 'na, mae'n awyrgylch saff eto.

"Ma nhw'n gallu aros fynna ar hyd y gêm, neu os ma nhw'n teimlo'n well ma' nhw'n gallu mynd nôl mas mewn i'r stondin. Ma' unrhyw un gallu defnyddio fe.

"S'dim rhaid bwco fe, jyst gofyn i'r stiward i gymryd nhw i'r ystafell a ma nhw'n gallu setlo lawr, teimlo'n well a wedyn dod mas pryd ma nhw mo'yn."
 

Newyddion diweddaraf

Mae'r wefan hon yn defnyddio cwcis i sicrhau eich bod chi'n cael y profiad gorau ar ein gwefan.