Newyddion S4C

Alan Llwyd yn ennill Cadair Eisteddfod Genedlaethol Llŷn ac Eifionydd

Alan Llwyd yn ennill Cadair Eisteddfod Genedlaethol Llŷn ac Eifionydd

Alan Llwyd sydd wedi ennill Cadair Eisteddfod Genedlaethol Llŷn ac Eifionydd 2023.

Yn un o’n Prifeirdd mwyaf amlwg ers cenedlaethau, llwyddodd i ennill y ‘dwbl’, sef y Gadair a’r Goron yr un flwyddyn – a hynny ddwywaith – yn 1973 ac 1976.  Ef yw’r bardd cyntaf ers llacio’r rheol ‘ennill dwy waith yn unig’ i ennill y Gadair am y trydydd tro.

Cyflwynwyd y Gadair eleni am awdl neu gasgliad o gerddi mewn cynghanedd gyflawn ar fwy nag un o’r mesurau traddodiadol, hyd at 250 o linellau, ar y teitl Llif. 

Y beirniaid oedd Karen Owen, Cathryn Charnell-White a Rhys Iorwerth.

Chwe ymgeisydd

Wrth draddodi ar ran y beirniaid, dywedodd Karen Owen: “Roedd y gwaith o feirniadu cystadleuaeth y Gadair eleni yn gymharol hawdd, oherwydd dim ond chwe ymgeisydd oedd yn ymgiprys am Gadair Boduan. A deud y gwir, roedd yn syndod i ni’r beirniaid fod cyn lleied wedi ymgeisio, yn enwedig wedi i’r pandemig oedi’r cystadlu am bron i dair blynedd.

“Ta waeth, fe anfonodd chwe chynganeddwr eu gwaith i mewn, ac er bod safon dechnegol y cynganeddu'n argoeli'n dda ar gyfer y dyfodol, mae lle eto i'r beirdd feddwl am elfennau eraill - fel strwythur, llais, a neges - er mwyn creu cyfanwaith cywrain ac aml haenog."

Image
karen owen
Karen Owen yn traddodi'r feirniadaeth.

Ychwanegodd Karen Owen: “Yr oedd hi'n glir o'r dechrau mai Llanw a Thrai yw cynganeddwr gorau'r gystadleuaeth. Yn bersonol, fe dyfodd y gwaith hwn arnaf efo pob darlleniad.  Er mai stori gyfarwydd iawn i Gymry Cymraeg ein cyfnod ni sydd yma, sef gadael bro cyn dychwelyd ddegawdau'n ddiweddarach yn llawn hiraeth euog.

“Y bardd hwn, yn fwy na neb arall, a gafodd y weledigaeth gliriaf ar gyfer ei destun. Dyma’r bardd hefyd a lwyddodd orau i droi’r weledigaeth honno yn farddoniaeth ddealladwy, ddarllenadwy sy’n rhoi mwynhad. Mae strwythur ei awdl yn syml: gŵr cymharol hen yn dychwelyd i fro’i febyd. Mae llanw’r môr a’r holl ddelweddau cysylltiedig yn rhoi’r cyfle iddo wedyn fyfyrio am ei linach a’i deulu, am olyniaeth, am yr hyn a fu a’r hyn a fydd.

“Ceir yma epigramau paradocsaidd rif y gwlith sy’n cyfleu hyn yn gofiadwy. Ac fe lynwyd yn dynn wrth y ddelwedd o ‘lif’ i fynegi’r cyfan oll. Mae cynganeddion Llanw a Thrai wedyn, er mor syml o glasurol ar un wedd, fel cyfanwaith yn orchestol. Hen law go iawn sydd wrthi fan hyn, ac mae rhai caniadau cwbl ysgubol yma.

“Rydan ni'n tri mewn cytundeb llwyr, yn dawel ein meddyliau, mai Llanw a Thrai ydi'r bardd sydd ar y brig, a'i fod yn gwbl deilwng o'r Gadair a phob braint ac anrhydedd a berthyn iddi.”

Gwreiddiau yn Llŷn

Ganed Alan Llwyd yn Nolgellau yn 1948. Bu’n byw ym mhentref Llan Ffestiniog ym Meirionnydd hyd at 1953, ac o’i bump oed ymlaen fe’i magwyd ar fferm yn Llŷn. Yn Llŷn y treuliodd weddill ei blentyndod yn ogystal â’i lencyndod. Bu’n ddisgybl yn Ysgol Botwnnog hyd at 1967, pryd yr aeth i’r Brifysgol ym Mangor i astudio Cymraeg fel ei brif bwnc.

Graddiodd yn y Gymraeg yn 1970, ac wedi hynny bu’n gweithio yn siop lyfrau Awen Meirion yn y Bala am ddwy flynedd, cyn symud i Abertawe yn 1976, i weithio fel golygydd i Wasg Christopher Davies. Rhwng 1980 a 1982 bu’n gweithio i’r Cyd-bwyllgor Addysg yng Nghaerdydd, ac o 1982 ymlaen, bu’n gweithio’n llawn-amser i’r Gymdeithas Gerdd Dafod, sef Cymdeithas Barddas, y gymdeithas a sefydlwyd ganddo ef ei hun yn Eisteddfod Genedlaethol Aberteifi yn 1976.

Bu’n gweithio i Barddas am bron i ddeng mlynedd ar hugain, yn hybu barddoniaeth, ac yn golygu cylchgrawn a chyhoeddiadau’r Gymdeithas. Cyhoeddodd dros 300 o lyfrau yn ystod ei gyfnodau fel cyhoeddwr a golygydd i wahanol sefydliadau. Alan Llwyd, ar y cyd â’r diweddar Penri Jones, a sefydlodd Llanw Llŷn, papur bro Pen Llŷn.

Fel bardd a llenor, mae wedi cyhoeddi dros 80 o lyfrau, gan gynnwys tri chasgliad cyflawn o gerddi. Enillodd gategori Ffeithiol-Greadigol Llyfr y Flwyddyn yn 2013 a 2020, a chategori Barddoniaeth Llyfr y Flwyddyn yn 2019. Yn 2018, enillodd Dlws Cwlwm Cyhoeddwyr Cymru am gyfraniad arbennig i’r byd cyhoeddi. Y mae wedi ennill dros 50 o wobrau llenyddol hyd yn hyn. Yn 1993, enillodd wobr BAFTA Cymru am y Sgript Ffilm Orau yn Gymraeg, sef sgript y ffilm Hedd Wyn.

Cyhoeddwyd ei gasgliad diweddaraf o gerddi, Cyfnos, ym mis Chwefror eleni.

Dyfarnwyd iddo radd Doethur mewn Llên yn 2012, ac fe’i penodwyd yn Athro yn Adran y Gymraeg, Prifysgol Cymru, Abertawe, yn 2013, am ei wasanaeth i lenyddiaeth Cymru.

Y mae’n briod â Janice ers 1976. Cawsant ddau o feibion, Ioan a Dafydd, ac erbyn hyn mae Janice ac yntau yn daid/tad-cu ac yn nain/mam-gu i Ffion a Tristan. Mae’r pump, heb eu henwi, yn rhan o’r awdl fuddugol eleni. Mae Alan Llwyd yn byw yn Nhreforys ar gyrion Cwm Tawe.

Newyddion diweddaraf

Mae'r wefan hon yn defnyddio cwcis i sicrhau eich bod chi'n cael y profiad gorau ar ein gwefan.