Newyddion S4C

Carcharu mab Mark Drakeford am dorri amodau Gorchymyn Atal Niwed Rhyw

11/08/2023
Jay Humphries (Heddlu De Cymru)

Mae mab Mark Drakeford wedi ei ddedfrydu i garchar ddydd Gwener am dorri amodau Gorchymyn Atal Niwed Rhyw.

Fe gafodd Jay Humphries, 36 oed, ddedfryd o 58 wythnos, gyda hanner o’r cyfnod hwnnw i’w dreulio yn y carchar. Fe gafodd orchymyn yn ei atal rhag cael mynediad at ffôn yn ogystal.

Roedd wedi pleidio yn euog i dorri amodau Gorchymyn Atal Niwed Rhyw ar ddau achlysur, mewn gwrandawiad blaenorol yn Llys Ynadon Caernarfon ar 21 Gorffennaf.

Y cyntaf oedd iddo greu cyfrif nad oedd wedi ei gymeradwyo gan yr Heddlu, ar wefan dêtio ‘Fab Guys’ ar 2 Mawrth eleni ym Mangor.

Yr ail oedd ei fod wedi dileu hanes ei ddefnydd o’i ffôn symudol, rhwng 2 a 7 Mawrth, hefyd yn groes i’r gorchymyn oedd arno.

Roedd hyn yn groes i’r gorchymyn gafodd ei osod arno ym Medi 2018 am dresio menyw ac achosi gwir niwed corfforol, pan gafodd hefyd ddedfryd o wyth mlynedd yn y carchar.

Ar y pryd roedd yn cael ei adnabod fel Jonathan Drakeford.

Wrth ddedfrydu, dywedodd y Barnwr Timothy Petts: “Tra bod dy ffôn yn cael ei wirio, ni chafodd unrhyw sgyrsiau anghyfreithlon ei ddarganfod, ond mi roedd sgyrsiau o natur rywiol ac mi oedd hynny yn bryder i’r swyddogion.

“Mae’n glir dy fod wedi dileu hanes dy ffôn yn fwriadol.”

'Colli ei fam'

Wedi iddo gael ei ryddhau dan drwydded ar ôl treulio hanner ei ddedfryd wreiddiol yn y carchar, fe gafodd Humphries ei symud dan drwydded i ganolfan ar gyfer droseddwyr ym Mangor.

Clywodd y Llys fis diwethaf fod defnydd Mr Humphries o’r wefan Fab Guys wedi ei gymeradwyo gan swyddogion gwasanaeth y prawf, ond doedd yr enw anhysbys yr oedd yn ei ddefnyddio ar ei gyfrif heb gael ei gymeradwyo.

Dywedodd Gemma Morgan, a oedd yn amddiffyn Mr Humphries, ei fod wedi dileu hanes y gwefannau yr oedd wedi ei ymweld â nhw ar ddamwain, gan ei fod yn ceisio dileu’r ap ar y ffôn yn gyfan gwbl.

Dywedodd hefyd ei fod wedi defnyddio’r wefan Fab Guys yn fwy aml ers mis Ionawr gan ei fod mewn llety gyda “phobl estron” ac yr oedd eisiau “rhannu ei deimladau gyda dynion eraill” yn dilyn marwolaeth ei fam Clare Drakeford ym mis Ionawr.

Clywodd y llys fod Mr Humphries wedi dychwelyd i’r carchar am dorri amodau ei drwydded, gan gynnwys anfon negeseuon maleisus i swyddogion tra’n byw yn y canolfan i droseddwyr.

Clywodd y llys hefyd fod Mr Humphries yn awtistig a'i fod ganddo anawsterau dysgu.

Llun: Heddlu De Cymru

Newyddion diweddaraf

Mae'r wefan hon yn defnyddio cwcis i sicrhau eich bod chi'n cael y profiad gorau ar ein gwefan.