Newyddion S4C

Seremoni'r Cadeirio'n uchafbwynt y cystadlu ym Moduan ddydd Gwener

Cadeirio

Seremoni'r Cadeirio fydd yr uchafbwynt yn Eisteddfod Genedlaethol Llŷn ac Eifionydd 2023 ddydd Gwener.

Yn ystod y bore fe fydd rhagor o aelodau newydd yr orsedd yn cael eu hurddo, gyda sawl wyneb amlwg ymysg yr aelodau fydd yn derbyn y fraint ym Moduan.

Caiff y Gadair ei chyflwyno eleni am awdl neu gasgliad o gerddi mewn cynghanedd gyflawn ar fwy nag un o’r mesurau traddodiadol, hyd at 250 o linellau, ar y teitl ‘Llif’.

Y beirniaid yw Cathryn Charnell-White, Karen Owen a Rhys Iorwerth.

Y crefftwr Stephen Faherty sy’n gyfrifol am gynllunio a chreu’r Gadair, ac fe gafodd ei llunio eleni o ddarn mawr o goeden dderw gafodd ei phlannu ar ymyl y Lôn Goed dros 200 mlynedd yn ôl.

Cafodd y llwybr chwe milltir o hyd ei anfarwoli yn y gerdd ‘Eifionydd’ gan R Williams Parry.

Chwythodd gwyntoedd cryfion Storm Darwin y goeden gyfan i lawr ym mis Chwefror 2014, a chafodd darn ohoni ei chyflwyno i’r Eisteddfod gan Eifion Williams, Tyddyn Heilyn, pan glywodd fod yr Eisteddfod i’w chynnal yn lleol.

Mae Stephen Faherty yn grefftwr sy’n arbenigo mewn cerflunio, wedi naddu’r gadair, nid ei chreu o ddarnau o dderw, ac mae’n un o’r ychydig rai fydd wedi eu naddu ar gyfer yr Eisteddfod Genedlaethol.

“Mae’n ddarn arbennig o bren, ac roedd o’n gweddu i’w gerfio i gadair,” meddai.

“Wrth gwrs rydw i wedi gorfod defnyddio llif i dorri’r bonyn yn siâp cadair ond mae’n gadair sydd wedi’i chreu o un darn o bren.

“Fy mwriad o’r cychwyn cyntaf oedd gadael y bonyn i siarad drosto’i hun.

“Mae graen prydferth i’r bonyn ac rydw i am i hwnnw ddod allan a sgleinio.

“Yn bendant bydd yn tynnu’r llygad.”

Llun: Iolo Penri / Esiteddfod Genedlaethol

Newyddion diweddaraf

Mae'r wefan hon yn defnyddio cwcis i sicrhau eich bod chi'n cael y profiad gorau ar ein gwefan.