Cyhoeddi Prif Ddramodydd Eisteddfod T
Cyhoeddi Prif Ddramodydd Eisteddfod T
Rhiannon Lloyd Williams o Gaerdydd yw Prif Ddramodydd Eisteddfod T 2021.
Elgan Rhys, fu’n beirniadu’r gystadleuaeth, gyda 38 o geisiadau yn dod i law.
Dywedodd bod y gystadleuaeth wedi bod yn un “amrywiol”, ond darn Rhiannon, ‘Help(u)’, wnaeth “aros yn y cof”.
Fe fydd Rhiannon, sydd â gradd yn y Gymraeg o Brifysgol Bangor, yn treulio blwyddyn fel Dramodydd Preswyl Ifanc gyda Theatr Genedlaethol Cymru.
Fel rhan o’r gystadleuaeth, mae hi’n derbyn tlws arbennig wedi ei greu gan y cerflunydd Ann Catrin Evans.
Daeth Delyth Evans o Silian ger Llambed yn ail, gyda Martha Grug Ifan o Langynnwr, ger Caerfyrddin yn drydydd.
Dilynwch holl gystadlaethau Eisteddfod T ar S4C drwy gydol yr wythnos, neu gwyliwch ar alw ar S4C Clic neu BBC iPlayer.