Newyddion S4C

Rheol iaith 'yn bwysig' medd Gweinidog y Gymraeg

jeremy miles

Mae Gweinidog y Gymraeg wedi datgan ei gefnogaeth i reol iaith yr Eisteddfod Genedlaethol, gan ddweud bod hi'n "bwysig o ran polisi iaith" cael o leiaf un  wythnos lle mae'r Gymraeg yn cael blaenoriaeth.

Dywedodd Jeremy Miles wrth raglen Newyddion S4C bod "trafodaeth bwysig" wedi bod ynglyn a'r rheol iaith yn ddiweddar, wedi i rai cerddorion awgrymu llacio'r rheol mewn rhai gweithgareddau ymylol.

"Mae'n bwysig o ran polisi iaith fod lleoedd, gofodau lle mae'r Gymraeg yn cael ei defnyddio am un wythnos, ar un maes, un set o lwyfanau," meddai.

"Dwi'n meddwl fod y rheol iaith yn gwneud gwaith pwysig, ond mae'n rhaid bod gweithgareddau ehangach yn hygyrch hefyd."

Wrth ymateb i bryderon fod costau'r Eisteddfod wedi cynyddu hyd at 40 y cant yn ystod y flwyddyn ddiwethaf, dywedodd Mr Miles fod Llywodraeth Cymru wedi cynyddu'r grant craidd i £1 miliwn, a'u bod hefyd wedi cyfrannu grantiau ychwanegol o £1.7 miliwn yn ystod y ddwy flynedd diwethaf.

Dywedodd fod yr Eisteddfod  wedi cydweithio a Chyngor Gwynedd ar gynllun peilot i gynnig mynediad am ddim i bobl lleol ar incwm isel i ddod i'r Maes.

"Mae e'n wir bwysig nad ydi costau'n dodi pobl ffwrdd," meddai.

"Wrth gwrs ni'n trafod nawr a'r Eisteddfod ynglyn a'r flwyddyn nesaf. Ni mewn trafodaethau parhaus ynglyn a hynny." 

Newyddion diweddaraf

Mae'r wefan hon yn defnyddio cwcis i sicrhau eich bod chi'n cael y profiad gorau ar ein gwefan.