Diffoddwyr yn ymateb i dân eithin ar fynydd ger Llangollen
Diffoddwyr yn ymateb i dân eithin ar fynydd ger Llangollen
Mae Gwasanaeth Tân ac Achub Gogledd Cymru wedi bod yn brwydro tân eithin ar fynydd Rhewl ger Llangollen.
Cafodd y gwasanaeth ei galw i'r digwyddiad am 13.13 brynhawn dydd Mawrth, gyda'r tân wedi dod o dan reolaeth am tua 21.00.
Mae diffoddwyr tân yn parhau i "huddo mannau problemus ar y mynydd", meddai'r gwasanaeth.
Bu criwiau tân yn gweithio â chydweithwyr o Gyfoeth Naturiol Cymru, Wardeiniaid Sir Ddinbych o Gyngor Sir Ddinbych, Heddlu Gogledd Cymru a’r grŵp gwirfoddolwyr 4 x 4 i ddod â’r digwyddiad dan reolaeth.
Aeth hofrennydd yno hefyd i ollwng dŵr i helpu i ddiffodd y tân.
Roedd tua 1km sgwâr o eithin, tandyfiant a choedwigaeth wedi cael eu heffeithio, a chredir bod y tân wedi cynnau’n ddamweiniol.
Mae'r gwasanaeth tân yn annog pobl i gadw draw o'r ardal.
Dywedodd Paul Jenkinson o Wasanaeth Tân ac Achub Gogledd Cymru: “Dylech barhau i osgoi’r ardal tra mae’r criwiau’n delio â’r digwyddiad. Bydd gennym nifer o gerbydau yn yr ardal eto heddiw, a gofynnwn i’r cyhoedd ein helpu drwy gadw draw o’r ardal nes bydd y digwyddiad drosodd.
“Mae’r digwyddiad hwn yn tynnu sylw at bwysigrwydd gweithio mewn partneriaeth â’n cydweithwyr o’r asiantaethau eraill i ddod â’r digwyddiad dan reolaeth yn gyflym a diogel. Mae ein criwiau wedi gweithio’n galed ar y mynydd ddoe mewn amgylchiadau poeth iawn, a hoffwn ddiolch i bawb a fu’n helpu gyda’r digwyddiad.”