Cadeirydd Eisteddfod Llŷn ac Eifionydd yn gobeithio y bydd yn 'torri sawl record'

Michael Strain

Roedd pethau’n argoeli’n dda ar gyfer chwip o ’Steddfod yn Llŷn ac Eifionydd o’r cychwyn cyntaf, pan ddaeth cannoedd o bobl i Ysgol Glan y Môr, Pwllheli ar noson dywyll, oer ym mis Tachwedd 2019 i wahodd y Brifwyl yn ffurfiol.

“Roedd y brwdfrydedd yn heintus,” meddai Cadeirydd y Pwyllgor Gwaith, Michael Strain. “Yna, fe ddaeth y pandemig, a rhoi stop arni am ddwy flynedd.

"Ond er bod y trefnu wedi tawelu yn nyddiau’r Cyfnod Clo, roedd y brwdfrydedd yno o hyd, a phan gawsom ein rhyddhau o’r cyfyngiadau, wel, ffwrdd â ni unwaith eto.

"Ac mae’n argoeli i fod yn Eisteddfod sy’n torri sawl record.”

Erbyn y gwanwyn eleni roedd y targed ariannol o £400,000 wedi’i gyrraedd, ac roedd arian yn parhau i lifo i mewn, gyda Michael a Chadeirydd y Gronfa Leol, Dafydd Rhun, wedi gosod eu golygon ar record arall a osodwyd y llynedd gan griw gweithgar Ceredigion.

“’Dan ni’n wedi curo’r swm o £463,000 godwyd gan drefnwyr Eisteddfod Ceredigion llynedd," meddai Michael Strain.

"Dan ni wedi cael miloedd o hwyl yn hel yr arian, ac mae’r pwyllgorau lleol wedi bod yn uchelgeisiol a llawn dychymyg yn eu gweithgareddau.

"Rwy’n siŵr y gwelwn ni sawl un o’r digwyddiadau yn dod yn rhan annatod o galendr Llŷn ac Eifionydd yn y dyfodol – y gwaddol ‘ma sy’n rhan mor bwysig o waith yr Eisteddfod.”

Image
Eisteddfod

Mae Michael yn ffyddiog y bydd torfeydd mawr yn dod i’r Maes ym Moduan.

“’Does ond gorfod edrych ar y Maes Carafanau," meddai.

"O fewn ychydig ddyddiau i’r wefan agor roedd mil o safleoedd wedi’u gwerthu, a’r maes gwersylla’n prysur lenwi.

"Erbyn hyn, mae’r carafanau i gyd wedi’u gwerthu, a dim ond lle i nifer cyfyngedig o bebyll ar ôl. Mae ffermwr lleol wedi llwyddo i gael caniatâd cynllunio i leoli 350 o garafanau ar ei dir, felly bydd ‘na dros 1,500 o garafanau o fewn milltir i’r Maes.

"Nid pentre’ carafanau ‘di hynny – ond dinas!”

Ychwanegodd bod pob stondin wedi’i harchebu – gyda rhestr aros yn disgwyl yn eiddgar i glywed a fydd ‘na unrhyw un yn canslo, neu gornel fach newydd yn cael ei darganfod ar y Maes i ddal ambell stondin arall.

Image
Carafan

Byddin o yn barod i helpu

Ac un o lwyddiannau mawr 2023 yw awydd y gymuned leol i fod yn rhan o’r tîm ac i wirfoddoli yn ystod yr wythnos, gyda nifer fawr o’r rhai sydd wedi cofrestru’n dod i helpu am y tro cyntaf.

“’Dan ni’n griw cymwynasgar yn Llŷn, Eifionydd ac Arfon,” meddai’r Cadeirydd.

“Ond dwi’n reit falch ein bod ni wedi bod yn gofyn i bobol ddod i helpu, yn hytrach na gwirfoddoli.

"Dan ni i gyd yn hapus i helpu hefo rhyw ddigwyddiad neu’i gilydd yn ein pentrefi a’n cymunedau, ond mae’r syniad o wirfoddoli yn swnio’n ffurfiol a chrand braidd. Felly, gofyn i bobol ddod i helpu wnaethon ni eleni, ac mae ‘na gannoedd ar gannoedd wedi gwneud.

“O fewn ychydig wythnosau i’r porth gwirfoddoli agor, roedd dros 1,400 o sesiynau unigol wedi’u llenwi. Da iawn wir – a diolch yn fawr i bawb sydd wedi cynnig eu hamser.

“Fyddai’r Eisteddfod ddim yn gallu digwydd heb y gefnogaeth leol arbennig yma, a ‘dan ni wedi bod mor ffodus eleni, gyda chymaint eisiau bod yn rhan o’r tîm a gweld ein ’Steddfod ni’n llwyddo."

Dathlu iaith a diwylliant

“Mae’r Eisteddfod bellach yn Ŵyl Genedlaethol sy’n dathlu ein hiaith a’n diwylliant, ond mae’r cystadlu’n dal wrth wraidd y cwbwl, ac rwy’n hynod falch bod 50 o gorau wedi cofrestru yn yr amrywiol gystadlaethau," meddai Michael.

"Rwy’n deall hefyd bod nifer uchel o gynigion wedi’u derbyn am y gwobrau llenyddol, ac roedd ‘na 40 cais gan 30 o unigolion am wobr Dysgwr y Flwyddyn."

Ond yr un ffactor nad oes gan y trefnwyr a’r tîm lleol gweithgar reolaeth arni yw’r tywydd, ac mae Michael yn gobeithio na welwn ni ormod o law ym Moduan eleni.

“Roedd ‘na dywydd bendigedig yn 1955, y tro diwethaf i’r Eisteddfod ddod i’r rhan yma o’r byd, ac fe gafodd ei disgrifio gan un gohebydd fel ‘Eisteddfod Pwll-haul’," meddai.

"Allwn ni ond gobeithio y bydd y tywydd yn golygu ein bod ni’n torri record arall."

Dyma erthygl sy’n rhan o gyfres nodwedd sydd wedi eu paratoi ar gyfer rhaglen yr Eisteddfod Genedlaethol eleni. Mae awduron yr erthyglau yn cynnwys Eryl Crump, Siân Teifi, Mared Llywelyn a Twm Herd.

Newyddion diweddaraf

Mae'r wefan hon yn defnyddio cwcis i sicrhau eich bod chi'n cael y profiad gorau ar ein gwefan.