
Y Dyn tu ôl i'r lens ar Faes yr Eisteddfod
“Gweld llais a chlywed llun,” wnaeth y Prifardd Gerallt Lloyd Owen, ond creu delweddau cofiadwy o’r Eisteddfod Genedlaethol yw camp Aled Llywelyn.
Dros y blynyddoedd diwethaf mae’r ffotograffydd o Gaerfyrddin wedi tynnu miloedd o luniau trawiadol ar y Maes, a’r rheini wedi’u defnyddio mewn papurau newydd, cylchgronau a gwefannau, yn ogystal â deunydd hyrwyddo’r Eisteddfod.
Wrth gwrs, mae gan bawb eu hoff luniau, ond tybed pa rai yw ffefrynnau Aled ei hun?
Meddai Aled, “’Wi’n tynnu llunie yn yr Eisteddfod ers 2014 – ’Steddfod Llanelli – ond ’wi’n dod i’r Eisteddfod ers blynydde.

"Ro’dd Nain a Taid yn byw yn y gogledd felly ro’n i’n arfer mynd ’da nhw.
"Bryd ’ny ro’dd gen i fwy o ddiddordeb mewn casglu sticeri na beth o’dd yn digwydd ar y Maes, ond ma hynny i gyd wedi newid nawr.
“Pan ddes i i’r Maes yn Llanelli, ro’dd e’n amlwg fod yr Eisteddfod wedi newid. Wrth gwrs, ma’r cystadlu’n dal i fod yn bwysig iawn, ond ro’dd y Maes yn edrych mor wahanol.
"Ro’dd ’na bafiliyne newydd a baneri ac ro’dd popeth fwy fel gŵyl – a phawb yn joio. Dyna ’wi’n hoffi’i weld, pobl yn mwynhau.
'Chwilio am gyfle'
Un enghraifft o hynny yw’r llun o’r gosodiad celf dynnodd Aled o arddangosfa Carnifal y Môr yn yr Eisteddfod ym Mae Caerdydd. “’Wi’n mynd o gwmpas y Maes yn chwilio am gyfleoedd fel hyn.

"Fe gymrodd e ’chydig o amser i’w gael e’n iawn ond ma’ fe’n cyfleu’r neges bod pobol yn mwynhau’r ’Steddfod,” meddai.
Ond ’dyw Aled ddim yn anwybyddu traddodiadau’r Brifwyl ’chwaith.
Tynnodd y llun o T James Jones (Jim Parc Nest) yn syth ar ôl i’r Archdderwydd gyhoeddi’i fod wedi ennill y Gadair yn Eisteddfod Sir Conwy 2019.
“’Wi’n meddwl fod e’n dangos balchder dyn sydd wedi ennill y Gadair ym Mhrifwyl ddiwylliannol ei genedl. Mae’n un o fy ffefrynnau,” meddai Aled.
Symud gyda'r oes
Mae Aled hefyd yn hoffi chwilio am luniau mewn llefydd annisgwyl ar y Maes. Meddai, “’Wi’n hoffi’r llun o aelodau’r Orsedd yn ymlacio yn ‘stafell werdd’ Maes B, yn hen adeilad Dr Who ym Mae Caerdydd. Ma gan yr Eisteddfod ei thraddodiade ond mae’n symud gyda’r oes,” meddai.
Un o elfennau mwy newydd yr Eisteddfod yw Gig y Pafiliwn, pan ddaw bandiau Maes B i berfformio ar lwyfan mwyaf dylanwadol a phwysicaf Cymru.

“’Wi’n hoffi’r llun o Alffa o’r gig yng Ngheredigion y llynedd. Ro’n i ’di tynnu’u llun nhw adeg Brwydr y Bandiau pan o’n nhw’n dachre, a dyma nhw, ar lwyfan ‘world-class’ yn chware gyda cherddorfa wych o fla’n torf enfawr llawn bywyd,” meddai.
Ac mae Aled wastad yn chwilio am lun damaid bach yn wahanol, yn arbennig os yw’n gyfle i ddangos dau fyd yn gwrthdaro. A dyna ddigwyddodd gyda llun y Fari Lwyd ddireidus ym Meifod.
“Ro’n i’n gwbod bod y Fari Lwyd o gwmpas y lle yn chwilio am ddireidi, ac fe lwyddes i’w dal hi y tu fas i’r Tŷ Gwerin yn llygadu hufen ia Eisteddfodwr! Dau fyd yn gwrthdaro, a llun llawn hiwmor a hwyl sy’n cyfuno’r traddodiadol a’r absẃrd!”
Dyma erthygl sy’n rhan o gyfres nodwedd sydd wedi eu paratoi ar gyfer rhaglen yr Eisteddfod Genedlaethol eleni. Mae awduron yr erthyglau yn cynnwys Eryl Crump, Siân Teifi, Mared Llywelyn a Twm Herd.