Merch bedair oed wedi marw yn un o barciau dŵr mwyaf y DU

Waterworld Henley

Mae merch bedair oed wedi marw ar ôl digwyddiad yn un o barciau dŵr mwyaf y DU, meddai Heddlu Swydd Stafford.

Cafodd yr heddlu eu galw i barc dŵr Waterworld yn Hanley, Stoke-on-Trent, tua 16.20 ddydd Llun i adroddiadau fod merch mewn cyflwr difrifol.

Cafodd ei thrin yn y fan a'r lle ac yna ei chludo i'r ysbyty am driniaeth bellach ond fe fu farw yno.

Mae ei theulu wedi cael gwybod ac yn cael eu cefnogi gan swyddogion sydd wedi'u hyfforddi'n arbennig, meddai'r heddlu.

Bydd Waterworld ar gau ddydd Mawrth "allan o barch i'r teulu", meddai'r parc dŵr.

"Gyda thristwch mawr wnaethon ni glywed am farwolaeth y ferch fach hon heno," meddai llefarydd.

"Mae ein holl feddyliau gyda'i theulu a'i hanwyliaid yn ystod y cyfnod anodd iawn hyn.

"Mae Waterworld mewn sioc ac wedi penderfynu aros ar gau yfory allan o barch i'r teulu."

Fe wnaethon nhw ychwanegu fod y parc yn gweithio gyda'r awdurdodau.

Dywedodd y Prif Arolygydd Ditectif Lucy Maskew: "Mae ein meddyliau gyda'r teulu yn yr amser trist iawn hwn.

“Rydym nawr yn gwneud ymholiadau ac yn ceisio sefydlu amgylchiadau’r digwyddiad.

“Gofynnwn i aelodau’r cyhoedd osgoi dyfalu yn ystod camau cynnar yr ymchwiliad a gadael i’r teulu alaru.”

Maen nhw’n gofyn i unrhyw un sydd â gwybodaeth ffonio 101 gan ddyfynnu rhif digwyddiad 460 o Awst 4.

Newyddion diweddaraf

Mae'r wefan hon yn defnyddio cwcis i sicrhau eich bod chi'n cael y profiad gorau ar ein gwefan.