Newyddion S4C

Eisteddfod Genedlaethol: Dod i adnabod Pen Llŷn

Pen Llyn

Penrhyn Llŷn, ardal arfordirol hardd gyda thraethau tywodlyd, cilfachau ac ogofâu dirgel, porthladdoedd bach hanesyddol ac ynysoedd hudolus.

Mae yma fryniau a mynyddoedd uchel gyda golygfeydd godidog fel yr Eifl ac Uwchmynydd, a bryngaerau hynafol o’r Oes Haearn fel Tre’r Ceiri a Garn Boduan.

Ac mae llond lle o nodweddion hanesyddol diddorol eraill, gan gynnwys eglwysi a chapeli, ffynhonnau sanctaidd a siambrau claddu.

Mae’n ardal ddelfrydol i fynd am dro, gyda llwybrau niferus wedi’u dynodi’n glir a lonydd distaw i fynd ar eu hyd ar gefn beic neu hyd yn oed gyda cheffyl.

Mae gwarchod y golygfeydd a’r etifeddiaeth yn hollbwysig, ac ers bron i 70 o flynyddoedd mae camau wedi’u cymryd i sicrhau hyn.

Yn 1957, dynodwyd rhan o Benrhyn Llŷn yn Ardal o Harddwch Naturiol Eithriadol (AHNE) o dan Ddeddf Parciau Cenedlaethol a Mynediad i Gefn Gwlad 1949.

Dim ond mannau o harddwch arbennig sy’n cael eu dynodi yn AHNE ac mae pum ardal yma yng Nghymru.

Mae AHNE yn debyg i Barciau Cenedlaethol a phrif bwrpas y dynodiad yw cynnal a gwella'r harddwch hwnnw.

Image
Penllyn
Morfa Nefyn

Yr ardaloedd yng Nghymru yw Bryniau Clwyd a Dyffryn Dyfrdwy, Penrhyn Gŵyr, Dyffryn Gwy, a dau ardal sy’n ddigon agos i’w crwydro yn ystod wythnos yr Eisteddfod, sef arfordir Môn a Phenrhyn Llŷn.

Ym Mhen Llŷn, mae’r gwaith yn cael ei wneud gan AHNE, drwy Gyngor Gwynedd, gyda thîm lleol yn gweithio’n galed i sicrhau fod yr ardal yn fwy hygyrch i bawb.

 

Taith arall yw’r un o Dafarn y Fic yn Llithfaen i Dafarn Tŷ Coch ym Mhorthdinllaen. Mae’n herio’ch ymroddiad i gychwyn o un dafarn groesawgar i gerdded y naw milltir i’r llall. Wrth gychwyn o Lithfaen mae’r llwybr yn arwain i Ganolfan Iaith a Threftadaeth Cymru Nant Gwrtheyrn ac ymlaen drwy Bistyll i Nefyn.

Mae’n dilyn llwybr yr arfordir heibio harbwr Nefyn cyn disgyn i’r traeth ym Morfa Nefyn a cherdded y rhan olaf ar hyd y tywod i’r Tŷ Coch.

Ers talwm roedd chwarelwyr gwenithfaen y pentref yn hwylio ar draws Bae Nefyn i’r Tŷ Coch, ac mae’r llwybr yn arwain y cerddwr heibio eglwys hynafol Pistyll ac ymlaen i Nefyn a’i dreftadaeth forwrol.

Gallwch, wrth gwrs, gerdded i’r cyfeiriad arall. Gellir teithio rhwng Clwb Golff Nefyn a Llithfaen ar wasanaeth bws cymunedol Llŷn.

Image
Pen llyn

Ceir golygfa odidog o Ben Llŷn (a Maes yr Eisteddfod) o gopa Garn Boduan. O Gapel Seion, Nefyn i’r copa mae’r siwrnai’n llai na phedair milltir, ac er bod y llwybr yn gul a serth mewn mannau mae’n werth yr ymdrech.

Cafodd olion dros 170 o dai crwn Oes yr Haearn eu darganfod yma, ac mae nifer ohonyn nhw’n dal i’w gweld.

Dyma erthygl sy’n rhan o gyfres nodwedd sydd wedi eu paratoi ar gyfer rhaglen yr Eisteddfod Genedlaethol eleni. Mae awduron yr erthyglau yn cynnwys Eryl Crump, Siân Teifi, Mared Llywelyn a Twm Herd.

Newyddion diweddaraf

Mae'r wefan hon yn defnyddio cwcis i sicrhau eich bod chi'n cael y profiad gorau ar ein gwefan.