
Gwobr i fragdy bychan sy'n falch o ddefnyddio'r Gymraeg
Mae bragdy bach o Bontypridd wedi ennill gwobr genedlaethol ar gyfer ei gwrw.
Fe enillodd Bragdy Twt Lol o Drefforest wobr am IPA gorau yn y DU gyda’i gwrw, Dreigiau’r Diafol, a hynny yng nghystadleuaeth Great British Beer Festival 2023.
Dyma’r tro cyntaf i’r bragdy ennill gwobr o’r fath, a mae nhw'n dweud eu bod “dros ben llestri gyda hapusrwydd” wrth sicrhau bod yr enw Cymraeg ar lwyfan i bawb i’w weld.
Wrth siarad â Newyddion S4C, dywedodd perchennog Bragdy Twt Lol, Phillip Thomas: “Yng Nghymru mae wedi bod er lles ni i ddefnyddio’r Gymraeg, heb os nac oni bai.
“Dyna’r ffordd dwi feddwl dylse busnesau delio gyda’r Gymraeg.
“Parchu’r Gymraeg, parchu ein hetifeddiaeth, parchu'r ffaith bod y Gymraeg yn cael ei siarad yn yr ardal yma er gwaetha popeth sydd wedi digwydd.
“Y ffaith bod hon yn rhoi rhyw fath o recognition, gobeithio wedyn bydd hwnna’n helpu ni i sefydlu fel bragdy ar draws Prydain a gwneud yn siŵr bod pobl yn gyfarwydd â’n henw a’n brand.”

‘Defnyddio’r Gymraeg’
Yn y gystadleuaeth, gafodd ei chynnal yn Llundain, dywedodd Mr Thomas ei fod wedi sylweddoli ar sawl unigolyn di-Gymraeg yn trafferthu i ynganu enw’r bragdy.
Mae’n benderfynol o barhau i ddefnyddio’r iaith gan ei fod yn “hynod o bwysig i gael yr enw Gymraeg mas ‘na,” meddai.
Bu’n cynnig gweithdai dysgu Cymraeg o’r bragdy yn wythnosol i hyrwyddo’r iaith a’i gwrw ymhellach hefyd.
“Ni’n defnyddio’r Gymraeg a does dim byd mynd i stopio ni rhag ‘neud ‘na, hyd yn oed os ‘yn ‘ni’n cymryd ein cwrw draw i Loegr.”
Yn dilyn cyfnod heriol yn sgil effaith y cyfnod clo, a'r argyfwng costau byw, bu’n annog pobl i brynu o fragdai a busnesau bach Cymreig er mwyn cefnogi’r economi lleol.
“Ni ‘di cael tair blynedd anodd iawn fan hyn i fod yn hollol onest.
“’Dyn ni ar stad ddiwydiannol Trefforest, a tair blynedd yn ôl ‘odd e dan dwr gyda llifogydd storm Dennis, felly mae hwnna ‘di bod cyfnod eitha’ heriol.
“Ac wedyn mis ar ôl i hwnna digwydd ym mis Chwefror 2020, y mis nesa, ym mis Mawrth, roedd y pandemig.”
Elw
Ond gyda newidiadau diweddar i drethu alcohol, mae Mr Thomas yn gobeithio gweld budd i’w fusnes bach.
“Yn y gorffennol beth sydd ‘di digwydd gydag alcohol yw ma’ seidr, gwin a chwrw yn cael eu trin yn wahanol.
“Felly os iti’n creu seidr, ‘odd ti’n cael gwerthu rhyw faint ohono fe heb orfod talu unrhyw dreth o gwbl dan y farmgate exemption.
Ond bellach mae bragdai bychain fel Bragdy Twt Lol hefyd yn cael elwa yn yr un modd.
“Bydd pob casgen yn lot mwy cystadleuol yn erbyn y bragdai mwy canolig o faint, felly mae’n mwy teg mewn ffordd.”