Cymru i herio Ffrainc mewn gêm gyfeillgar nos Fercher

02/06/2021
Cymru - llun Huw Evans

Bydd tîm pêl-droed Cymru yn wynebu Ffrainc yn stadia Allianz Riviera yn Nice nos Fercher mewn gêm gyfeillgar.

Gydag Euro 2020 ar y gorwel mewn llai na deg diwrnod, fe fydd y gêm yn brawf pwysig i Robert Page a'i garfan yn erbyn Pencampwyr Cwpan y Byd.

Daw hyn ar ôl i reolwr dros dro'r tîm gyhoeddi carfan Cymru ar gyfer y bencampwriaeth.

Dywedodd Robert Page mewn cynhadledd i’r wasg bod wynebu Ffrainc yn “sialens wych” i Gymru.

Yn dilyn y gêm yn Ffrainc, fe fydd Cymru yn chwarae mewn gêm gyfeillgar arall yn erbyn Albania nos Sadwrn (5 Mehefin).

Yna, yn Euro 2020 ei hun, bydd y chwaraewyr yn herio'r Swistir (12 Mehefin) a Thwrci (16 Mehefin) yn Baku, a’r Eidal (20 Mehefin) yn Rhufain yng ngrwpiau’r gystadleuaeth.

Bydd y gêm nos Fercher yn cael ei darlledu yn fyw ar S4C o stadia Allianz Riviera, gyda'r gic gyntaf am 20.05.

Llun: Astiantaeth luniau Huw Evans

Newyddion diweddaraf

Mae'r wefan hon yn defnyddio cwcis i sicrhau eich bod chi'n cael y profiad gorau ar ein gwefan.