'Ergyd enfawr': Banc olaf Dinbych i gau
'Ergyd enfawr': Banc olaf Dinbych i gau
Mae penderfyniad y banc olaf yn Ninbych i gau yn "ergyd enfawr" i'r gymuned, medd gwleidydd lleol.
Mae Dinbych eisoes wedi colli canghennau NatWest a Barclays, gyda HSBC yn cau ei ddrysau am y tro olaf ar 8 Awst.
Bellach mae'r unig fanc yn weddill, Halifax wedi cyhoeddi y bydd yn cau ar 4 Rhagfyr. Bydd y canghennau agosaf i dref Dinbych yn Yr Wyddgrug a'r Rhyl.
Dywedodd llefarydd ar ran yr Halifax bod nifer y cwsmeriaid wedi gostwng yn ystod y blynyddoedd dwethaf, gyda nifer fawr bellach yn bancio ar-lein neu ar ei ffôn symudol.
'Ergyd'
Mae AS Plaid Cymru, Llyr Gruffydd, sy’n cynrychioli Gogledd Cymru yn y Senedd yn apelio ar y banc i ail ystyried: “Mae hyn yn ergyd enfawr i’r gymuned leol, ac i’r busnesau a thrigolion y dref a’r cyffiniau sy’n dibynnu ar gangen y stryd fawr i gael mynediad at wasanaethau bancio hanfodol," meddai.
“Byddwn yn annog Halifax i ailfeddwl y penderfyniad byrbwyll hwn a fydd, heb os, yn cael effaith negyddol ar bobl yr ardal. Bydd yn gadael y dref heb un banc stryd fawr.
“Mae Dinbych eisoes wedi gweld ei ganghennau NatWest a Barclays yn cau eu drysau, ac mae HSBC eisoes wedi cyhoeddi eu bod yn bwriadu cau eu cangen yn y dref hefyd.
“Yn anffodus, rydyn ni’n gweld mwy a mwy o gymunedau ledled Cymru yn troi’n anialwch ariannol, lle mae cael mynediad at wasanaethau ariannol yn prysur ddod yn rhywbeth moethus, ac mae Dinbych yn enghraifft wych o hynny.
“Mae banciau’n hoffi beio’r cau hyn am y gostyngiad yn nifer yr ymwelwyr, ond yr hyn nad ydyn nhw’n ei ddweud wrthych chi yw eu bod nhw hefyd wedi lleihau eu horiau agor yn sylweddol.
“Bydd y cau diweddaraf hwn yn Ninbych yn achos pryder gwirioneddol i gwsmeriaid, yn enwedig y rhai na allant wneud eu bancio ar-lein.
“Beth bynnag mae’r banc yn ei ddweud, bydd y symudiad hwn bron yn sicr yn arwain at adael y rhai sy’n cael trafferth i gael mynediad at wasanaethau digidol ar ôl.
“Er ei bod hi’n sicr yn wir bod llawer o bobl bellach yn bancio ar-lein mae nifer fawr o bobl o hyd, yn enwedig yr henoed, y mae’n well ganddynt ddefnyddio eu cangen leol lle mae ganddynt berthynas bersonol â staff.
“Does dim rhyfedd bod yna deimlad eang o ddadrithiad ar draws Cymru gyda’r banciau wrth iddyn nhw gefnu ar ein cymunedau a rhoi’r gorau i’w cyfrifoldeb iddyn nhw.”
'Anawsterau'
Mae Comisiynydd Pobl Hŷn Cymru, Helena Herklots CBE, yn poeni am yr effaith ar drigolion hŷn: "Mae cynnydd bancio ar-lein wedi arwain at gau llawer o ganghennau’r stryd fawr, a ‘da ni’n gwybod fod hyn yn creu anhawsterau gwirioneddol i lawer o bobl hŷn, sy’n fwy tebygol o beidio a bod ar-lein ac sy’n aml yn cael eu digalonni o wasanaethau ar-lein ohewrydd pryderon am ddiogelwch”.
Dywedodd llefarydd ar ran Halifax: “Gan fod llawer o gwsmeriaid bellach yn dewis bancio ar-lein neu drwy eu app symudol, mae ymweliadau â’n cangen yn Ninbych wedi gostwng dros y blynyddoedd diwethaf.
"Mae’r Swyddfa Bost leol yn cynnig bancio bob dydd, gydag arian parod hefyd ar gael yn agos trwy beiriannau ATM rhad ac am ddim, ynghyd â ffyrdd eraill o fancio fel gwasanaethau bancio ar-lein, ffôn a symudol.”