Newyddion S4C

Carcharu dyn am anelu dryll ffug mewn siop yn y Rhondda

01/06/2021

Carcharu dyn am anelu dryll ffug mewn siop yn y Rhondda

Mae dyn o'r Rhondda a oedd wedi anelu dryll ffug at berchennog siop bwyd wedi cael ei garcharu.

Aeth Paul Griffiths, 57 oed, o Heol Penrhys, Ystrad, i mewn i 'Rhondda Takeaway' ar Heol Gelligaled am tua 22.15pm ar 5 Tachwedd 2020, a cheisio archebu bwyd.

Nid oedd Griffiths yn gwisgo mwgwd, a phan ofynnwyd iddo wisgo un, gwrthododd wneud hynny, a dywedwyd wrtho am aros y tu allan. 

Wrth i'r perchennog geisio egluro pam ei fod yn gofyn iddo wisgo masg, tynnodd Griffiths ddryll ffug o'i boced a'i anelu at y bobl y tu mewn i'r siop.

Llwyddodd un o'r gweithwyr i redeg allan drwy gefn y siop a ffonio 999.

Cyrhaeddodd swyddogion heddlu arfog o fewn munudau, gan arestio Griffiths a mynd ag ef i'r ddalfa.

Ar ôl iddo gael ei arestio, cafodd swyddogion warant i chwilio ei gartref yn Heol Penrhys lle cafodd ffatri ganabis ei darganfod.

Roedd y dryll a gafodd ei atal gan yr heddlu yn ddryll tebyg i arf tanio peledau paent sydd wedi'i bweru gan CO2 - arf sydd wedi'i wahardd.

Cafodd ei gyhuddo o feddu ar arf tanio mewn man cyhoeddus gyda'r bwriad o achosi ofn treisgar, meddu ar arf oedd wedi ei wahardd, a chynhyrchu canabis.

Ymddangosodd o flaen Llys Ynadon Merthyr Tudful ar 20 Mai ar ôl pledio'n euog ac fe gafodd ei garcharu am 20 mis.

Dywedodd y swyddog a oedd yn gyfrifol am ymchwiliad yr heddlu, Ditectif Gwnstabl Lucy Robins:

“Roedd gweithredoedd Griffiths y noson honno yn dwp ac yn fyrbwyll. Roedd y bobl a oedd yn siop y noson honno yn ofni am eu bywydau.

“Hoffwn ganmol gweithredoedd y perchennog a gadwodd ei ben, gan flaenoriaethu diogelwch pobl eraill drwy geisio cadw'r dyn y tu mewn i'r siop. Cysylltwyd â'r heddlu yn gyflym, gan olygu bod ein swyddogion heddlu arfog yno mewn munudau tra roedd y dyn yn dal i fod ar y safle.”

Newyddion diweddaraf

Mae'r wefan hon yn defnyddio cwcis i sicrhau eich bod chi'n cael y profiad gorau ar ein gwefan.