
Covid-19: Dim marwolaethau dyddiol wedi'u cofnodi yn y DU am y tro cyntaf
Nid oes marwolaeth newydd yn sgil Covid-19 wedi ei gofnodi trwy'r DU am y tro cyntaf ers dechrau'r pandemig.
Erbyn hyn, mae 152,068 o bobl wedi marw yn sgil Covid-19 yn y DU, gyda 5,569 yng Nghymru.
Cafodd 94 o achosion newydd o Covid-19 eu cadarnhau yng Nghymru yn ôl y ffigyrau dyddiol diweddaraf, gyda 3,165 ledled y DU.

Daw'r newyddion ar ôl i nifer o alwadau gael eu gwneud i oedi llacio cyfyngiadau Covid-19 yn Lloegr, sydd fod i ddigwydd ar 21 Mehefin.
Bydd Prif Weinidog Cymru, Mark Drakeford, yn cynnal cynhadledd i'r wasg ddydd Gwener ar gyfer adolygiad tair wythnos Cymru.
Gyda chyfraddau'r feirws yn parhau yn isel, mae gobeithion y bydd Mr Darkeford yn cyhoeddi y bydd y wlad yn symud i lefel rhybudd un.
Er hynny, mae Prif Weinidog Yr Alban, Nicola Sturgeon, wedi cyhoeddi ddydd Mawrth na fydd y wlad yn symud i lefel rhybudd un ar 7 Mehefin yn sgil pryderon am amrywiolyn a gafodd ei weld gyntaf yn India.