Newyddion S4C

Bwrdd iechyd yn ymddiheuro am brofiad ‘erchyll’ Dyfrig Evans flwyddyn ers ei farwolaeth

25/07/2023
Dyfrig ac Elaine Evans

Mae bwrdd iechyd wedi ymddiheuro yn "ddiffuant" wedi i wraig y canwr a’r actor Dyfrig Evans a fu farw y llynedd feirniadu yn hallt ei brofiad gyda'r Gwasanaeth Iechyd Gwladol.

Bu farw Dyfrig Evans o ganser ym mis Mai 2022 yn 43 oed. 

Wrth ganmol y staff “arbennig” a ofalodd amdano mae Elaine Evans yn dweud nad yw’r system yn ei chyfanrwydd yn gweithio.

Roedd Dyfrig Evans ei hun wedi bod mewn cysylltiad â Newyddion S4C cyn iddo farw yn dweud fod diffygion mawr yn y gwasanaeth iechyd. 

Yn ôl Elaine Evans dyw’r Gwasanaeth Iechyd “ddim jesd ar ei liniau”.

“Mae o’n fflat. Hollol fflat out,” meddai.

Dywedodd llefarydd ar ran Bwrdd Iechyd Caerdydd a'r Fro eu bod nhw’n ymddiheuro a bod Covid-19 wedi rhoi pwsyau “eithafol a chyson" ar eu gwasanaethau yn ystod y cyfnod pan oedd Dyfrig Evans dan eu gofal.

‘Erchyll’

Dim ond am saith mis y bu Dyfrig Evans yn sâl. Roedd o wedi cael symptomau cyn hynny ond fe ddaeth y profion yn ôl yn glir.

Yn Hydref 2021 fodd bynnag , bu’n rhaid iddo fynd i’r uned argyfwng brys yn Ysbyty Athrofaol Cymru, Caerdydd, gan ei fod yn dioddef o boenau mawr.

Cafodd ddiagnosis o ganser y coluddyn a llawdriniaeth frys y noson honno. Wedi hynny cafodd gemotherapi a radiotherapi yng Nghanolfan Felindre, sy’n arbenigo mewn trin canser.

Yn ogystal â’r canser, datblygodd broblem gyda’i arennau gan dderbyn triniaeth yn yr Ysbyty Athrofaol.

Yn ystod y misoedd nesaf bu raid iddo ymweld sawl gwaith ag uned argyfwng brys yr Ysbyty Athrofaol pan nad oedd o’n dda. 

“Odd y profiadau hynny dwi’n gwybod yn erchyll iddo fo,” meddai Elaine Evans.

“Jest edrych ‘nôl nawr de, dwi jest yn cofio’r fatha ofn rili oedd ganddo fo am orfod mynd nôl i A&E, ar ôl wedi bod yna y tro cyntaf yna.

“Achos dyna sut gath o'r diagnosis yn y lle cynta’, wrth fynd mewn i A&E mewn poen a gorfod aros am rywbeth fel pedair awr ar hugain.”

Dywedodd Elaine Evans bod y cwpwl yn bositif ar y dechrau y byddai yn cael ei iachau ond yna fe waethygodd ei gyflwr.

Dechreuodd ei goesau chwyddo ond doedd y sganiau ddim yn dangos unrhyw beth sinistr. 

Good news, it’s not spread. Dyna oedd o bob tro,” meddai. 

Dim ond ar ôl derbyn biopsi ym mis Mai y llynedd y cafodd Dyfrig wybod bod y canser wedi lledaenu. Fe gafodd gadarnhad mai canser prin iawn oedd o - Signet Ring Cell Carcinoma.

Bythefnos ar ôl y diagnosis hwnnw fe fuodd o farw. 

Image
Dyfrig Evans
Dyfrig Evans. Llun Elaine Evans

‘Gofid’

Pan oedd o’n gorfod mynd i’r uned frys roedd o’n aml yn disgwyl am oriau – gan gynnwys 28 awr un tro, meddai Elaine Evans, ac roedd yr amodau yn heriol.

Dywedodd nad oedd ganddo breifatrwydd, roedd wedi gorfod defnyddio toiledau budur ac yn aml wedi gorfod mynd heb feddyginiaeth i’w helpu gyda’r boen, meddai.

Ac oherwydd ei fod yn wael adeg pandemig Covid-19 doedd Elaine ddim yn cael bod yno gydag o. 

Dywedodd hefyd nad oedd gan y timau gwahanol oedd yn ei drin bob tro'r darlun cyflawn am ei gyflwr.

Roedd hynny’n cynnwys diffygion mewn cyfathrebu rhwng Canolfan Ganser Felindre ac uned frys yr Ysbyty Athrofaol, gyda staff yn yr uned frys ddim yn gwybod ei fod ar y ffordd yno.

“Mae angen pathways hollol wahanol i bobl efo canser,” meddai Elaine Evans.

“Os oes ‘na rhywun efo canser yn A&E, ‘dyn nhw ddim ‘di torri bys ac angen paracetomol i gadw nhw fynd am ddwy awr!  

“Mae ‘na bethe erill sydd yn dod ynghyd efo cael canser, y feddyginiaeth maen nhw angen bob hyn a hyn, y symptome sydd yn dod hefo goro cymryd meddyginiaeth, yr holl bethe ‘na dyw’r system ddim ffit i ddelio.

“Odd hwnna yn peri gofid mawr i Dyfs.” 

‘Pwysau'

Dywedodd Elaine fod Dyfrig wedi bwriadu sôn am ei brofiad, a bod hi wedi addo gwneud hynny cyn iddo farw.

Fe fu Dyfrig yn siarad â Newyddion S4C cyn i’w iechyd waethygu ac roedd yn teimlo'n gryf bod angen i bobol gael gwybod yr hanes.

“Fyswn i ddim isio i unrhyw un arall fynd trwyddo fo,” meddai Elaine Evans.

“Dyna pam, dwi’n gwybod odd Dyfs yn rili awyddus i rannu ei stori fo. A dyna oedd ei fwriad o, i fedru gwneud hynny.

“A mi nes i addo iddo fo, mi wnâi yn sicr bod y neges yn cael ei rhoi.”

Gofynnodd Newyddion S4C am ymateb Bwrdd Iechyd Prifysgol Caerdydd a'r Fro.

“Mae’n ddrwg iawn gennym ni am brofiad gwael Mr a Mrs Evans,” meddai llefarydd ar eu rhan.

“Yn ystod y cyfnod yr oedd Mr Evans yn ein gofal, roedd uned argyfwng Bwrdd Iechyd Caerdydd a’r Fro dan bwysau eithafol a chyson.  

“Roedd hynny wedi ei wneud yn waeth gan faint o Covid-19 oedd yn y gymuned gan achosi oedi digynsail i amseroedd aros.

“Er gwaethaf yr heriau hyn roedd ein cyd-weithwyr wedi brwydro i ddarparu'r gofal gorau posib ar gyfer ein cleifion.

“Rydyn ni’n gorff sy’n dysgu o hyd ac felly yn croesawu derbyn allbwn drwy ein tîm profiad cleifion.

“Yn yr achos hwn byddwn yn annog teulu Mr Evans i gysylltu gyda’n Tîm Pryderon fel bod modd i ni ymchwilio ymhellach.”

Dywedodd llefarydd ar ran Ymddiriedolaeth Prifysgol GIG Felindre eu bod nhw hefyd yn ymddiheuro.

"Mae Ymddiriedolaeth GIG Prifysgol Felindre yn ymddiheuro i deulu Mr Evans am unrhyw gyfathrebu aneffeithiol rhyngom ni a Bwrdd Iechyd Prifysgol Caerdydd a'r Fro a brofwyd yn ystod ei ofal – cyfnod oedd yn ddi-os yn un gofidus iawn iddynt," medden nhw.

"Rydym yn annog cleifion, eu teuluoedd a'u gofalwyr i rannu pryderon sydd ganddynt am unrhyw agwedd o’r gwasanaethau a ddarparwn.

"Mae hyn yn holl bwysig fel y gallwn ddysgu gwersi a’u rhannu gyda’r staff ym myrddau iechyd rhanbarth de-ddwyrain Cymru rydym yn cydweithio â hwy i wella gofal canser yn barhaus.

"Rydym yn annog teulu Mr Evans i gysylltu â ni'n uniongyrchol fel y gallwn wrando, deall a thrafod y materion perthnasol gyda nhw."

Dywedodd Llywodraeth Cymru nad oedden nhw am ymateb.

‘Bywyd full pelt’

Ychydig ddyddiau cyn iddo farw fe briododd y ddau yn yr ysbyty. “Oedden ni fod priodi yn Portmeirion eleni ar y twenty third o Fedi.

“Pan oedd o yn yr ysbyty nes i ddeud wrtho fo bod fi mynd i fynd i fyny ar y twenty third o Fedi. Dwi’n mynd i fod yn Portmeirion, mynd lawr ar bwys y môr.”

Roedd y ddau gyda’i gilydd am bedair blynedd ond roedd yn teimlo fel oes meddai. Mae’n dweud eu bod nhw fel dau gariad ifanc 16 oed ar ddechrau eu perthynas.

“Naethon ni fwy mewn pedair blynedd na lot o bobl dwi’n siŵr,” meddai. “Naethon ni gael lot o hwyl.”

 Yn ôl Elaine roedd Dyfrig wedi byw bywyd i’r eithaf.  

“Dwi’n meddwl bo fi yn meddwl fel 'na mewn ffordd, yn trial neud sens o sut oedd o yn deg bod hyn yn digwydd,” meddai.

“Ond bod lot o bobl yn cyrraedd 80 falle ac yn difaru. Nath o fyw full pelt a joio a neud cymaint. Oedd genna fo cymaint i fod yn prowd ohono yn y cyfnod yna.”

Image
Elaine a Dyfrig Evans
Elaine Evans a Dyfrig Evans. Llun Elaine Evans

‘Cadarn’

Ers iddo farw mae Elaine wedi dechrau cymryd mwy o ofal o’i hiechyd ei hun ac ymchwilio i’r berthynas rhwng yr ymennydd a’r corff.  

Erbyn hyn mae Elaine wedi sefydlu ymgyrch codi arian ar gyfer Canolfan Ganser Felindre.

Y bwriad yw defnyddio’r arian i wneud mwy o ymchwil i’r canser prin.  

Mae hefyd yn gobeithio trefnu gig er cof amdano a sefydlu cronfa goffa.  

Mae’n cael rhai dyddiau da, meddai, ond dyw’r galar ddim wedi diflannu. 

“Pan mae o yn dod nôl wedyn mae o yn taro chdi fatha bws,” meddai.

“Ti’n meddwl bo’ ti yn neud yn oce ac wedyn y peth nesa mae na un peth bach, falle bod o’n rhywbeth fel memory ar Facebook neu falle bod o’n gân neu jest rhywbeth.

“A weithie y pethe lleia’, ma nhw jest yn dod o nunlle a ti’n meddwl 'wow' ac mae o yn mynd a ti reit nôl i’r lle ‘na. 

“Ond pan dwi’n teimlo fel 'na dwi’n trio cofio, dwi’n gwybod bysa Dyfs yn deud, ‘Cmon, tyd, ti’n gallu neud hyn’ a dwi’n clywed o’n deud hynna.

“Achos dwi’n gwybod dyna fysa fo yn deud. Dwi’n gadarn yn hynny.” 

Llun: Dyfrig Evans ac Elaine Evans. Llun gan Elaine Evans

Newyddion diweddaraf

Mae'r wefan hon yn defnyddio cwcis i sicrhau eich bod chi'n cael y profiad gorau ar ein gwefan.