Corfu: Tanau gwyllt yn gorfodi pobl i ffoi o ail ynys yng Ngwlad Groeg

24/07/2023

Corfu: Tanau gwyllt yn gorfodi pobl i ffoi o ail ynys yng Ngwlad Groeg

Dros y dyddiau diwethaf mae miloedd o bobl wedi ffoi o ynys Rhodes yn Groeg oherwydd tannau gwyllt, ac erbyn hyn mae ynys Corfu yn wynebu'r un argyfwng.

Yn hwyr nos Sul cyhoeddodd Gwasanaeth Cyfathrebu Brys Gwlad Groeg orchmynion i adael nifer o ardaloedd yn Corfu.

Mae Corfu yn lleoliad poblogaidd gyda channoedd o filoedd o Brydeinwyr yn ymweld bob blwyddyn.

Mae tua 59 o bobl wedi gorfod gadael traeth Nissaki ar arfordir y gogledd-orllewin, gan gynnwys chwe llong gwarchod yr arfordir a naw llong breifat meddai Gwarchodwyr Arfordir Gwlad Groeg.

Ynys Rhodes

Mae Rhodes wedi bod yn brwydro yn erbyn tanau gwyllt a gwyntoedd cryfion ers dydd Mawrth ar ôl i fwg ddechrau gorchuddio ardaloedd twristaidd.

Mae 19,000 o bobl  wedi eu cludo oddi ar yr ynys neu i fan diogel ar yr ynys, sydd hefyd wedi cael ei tharo gan danau.

Mae’r wlad yn wynebu rhagor o wres eithafol, gyda meteorolegwyr yn rhybuddio y gallai’r tymheredd godi uwchben 45C.

Mae gwyliau cenedlaethol a oedd wedi’i gynllunio ar gyfer dydd Llun wedi’i ganslo “oherwydd yr amodau rhyfeddol oedd yn bodoli yn y wlad oherwydd y tanau”, meddai arlywyddiaeth Gwlad Groeg.

Mae cwmni gwyliau Jet2 bellach wedi canslo pob hediad i Rhodes, tra bod TUI wedi canslo pob hediad yno tan ddydd Mercher.

Bydd yr awyrennau dal i hedfan yno, ond heb unrhyw deithwyr, fel y gallant hedfan pobl yn ôl i'r DU.

Cyngor teithio

Mae'r Ysgrifennydd Tramor James Cleverly wedi dweud mai "diogelwch Prydeinwyr ydi ein prif flaenoriaeth" ac fe wnaeth gynghori pobl i "barhau i wirio cyngor teithio gan y swyddfa dramor".

Mae cychod preifat wedi ymuno â gwylwyr y glannau i geisio cludo pobl oddi ar draethau ar ochr ddwyreiniol yr ynys.

Mae rhybuddion y gallai fwy gychwyn tra bod y tymheredd mor uchel.

Bu twristiaid a thrigolion yn ymgasglu mewn ysgolion a llochesi ddydd Sul yn Rhodes.

Ymhlith y twristiaid sydd ar eu gwyliau ar yr ynys oedd Gwennan Roberts, o Ynys Môn, a'i theulu.

Fe ddywedodd wrth Newyddion S4C sut y cafodd ei dwy ferch a hithau eu deffro gan larwm argyfwng gyda chyfarwyddyd i adael eu gwesty ar unwaith.

"Gafo ni alwad ffôn tua hanner nos neithiwr, ein ffonau symudol ni'n larmio, yn deutha ni i adael y gwesty a mynd lawr i'r sgwâr," meddai.

"Oedd 'na gannoedd o bobl yn fan 'na ddim cweit yn siŵr be i neud."

Cafodd Ms Roberts a'i theulu eu cludo ar fws i leoliad awr a hanner i ffwrdd, ble y maent yn cael eu gofalu amdanyn nhw.

"Fuon ni'n ffodus o gael y bys reit handi a trafeilio awr a hannar i fyny i fan hyn, mewn canolfan hamdden yda ni yn College of Rhodes.

"Ma' nhw 'di bod yn edrych ar ôl ni'n wych yn fan hyn. 

"Myfyrwyr ydyn nhw, coleg ydi o, a ma' nhw 'di bod yn wych so 'dan ni'n lwcus ag yn meddwl am rheiny sydd 'di colli bob dim."

Fe wnaeth Ynyr Roberts a'i wraig y newyddiadurwraig Gwenllian Glyn, ddychwelyd i Gymru fore Sul ar ôl gadael mwyafrif o’u heiddo mewn gwesty yn Ynys Rhodes.

"12 awr yn ôl roedden ni ar wyliau hyfryd a'r awyr yn las ar ynys Rhodes, ond o fewn ychydig funudau roedd yr awyr yn oren, y goedwig yn wenfflam," dywedodd Ynyr.

Ychwanegodd Gwenllian: "Aethon ni 'nôl i'r 'stafell a phacio un cês a gadael bob dim arall... lwcus naethon ni achos aethon ni 'nôl i'r dderbynfa a munud nesa' oedd y fflamau jyst reit wrth y gwesty."

Llun: Brendan Molloy

Newyddion diweddaraf

Mae'r wefan hon yn defnyddio cwcis i sicrhau eich bod chi'n cael y profiad gorau ar ein gwefan.