Newyddion S4C

Sage Todz yn un o gyflwynwyr rhaglenni'r Eisteddfod Genedlaethol ar S4C

Sage Todz

Fe fydd y rapiwr Sage Todz yn rhan o dîm cyflwyno rhaglenni teledu S4C o Eisteddfod Genedlaethol Llŷn ac Eifionydd eleni.

Daeth y rapiwr o Benygroes yn Nyffryn Nantlle i amlygrwydd y llynedd wedi iddo ail-recordio fersiwn rap o ‘Yma o Hyd’ gan Dafydd Iwan gyda help Cymdeithas Bêl-droed Cymru.

Mae’r artist wedi siarad yn gyhoeddus am bwysigrwydd diwylliant Cymru a’r iaith Gymraeg iddo, gyda rhan helaeth o’i waith yn ddwyieithog.

Mae cryn dipyn o drafod wedi bod am reol iaith y Brifwyl wedi i Sage Todz ddatgan na fydd yn perfformio ar faes yr Eisteddfod Genedlaethol ym Moduan eleni, oherwydd polisi iaith y Brifwyl.

Roedd rhai honiadau yn y wasg fod Sage Todz wedi ei wahardd o'r Brifwyl yn sgil y rheol iaith, ond wrth siarad ar raglen Newyddion S4C nos Wener, dywedodd Prif Weithredwr yr Eisteddfod Genedlaethol Betsan Moses fod Sage Todz yn "un o'r bobl fydd yn cyflwyno rhaglenni'r Eisteddfod ar S4C, felly doedd 'na ddim gwaharddiad o gwbl.

"Ond mi oedd defnyddio geirie clickbait fel 'na, yn gallu bod mor niweidiol ac wrth gwrs, mi greodd e belen eira o ran atgasedd o'r naill ochr a'r llall o'dd yn gwbl gywilyddus ac felly mi gath staff, mi gath artistiaid eu llabyddio," meddai Ms Moses.

Newyddion diweddaraf

Mae'r wefan hon yn defnyddio cwcis i sicrhau eich bod chi'n cael y profiad gorau ar ein gwefan.