Newyddion S4C

Mab Mark Drakeford yn ymddangos yn y llys yng Nghaernarfon ar ôl torri amodau Gorchymyn Atal Niwed Rhyw

21/07/2023
Jay Humphries (Heddlu De Cymru)

Mae mab y Prif Weinidog Mark Drakeford wedi ymddangos yn y llys yng Nghaernarfon ddydd Gwener ar ôl torri amodau Gorchymyn Atal Niwed Rhyw.

Roedd Jay Humphries, 36 oed, wedi cael dedfryd o wyth mlynedd yn y carchar fis Medi 2018 am dreisio menyw ac achosi gwir niwed corfforol.

Ar y pryd roedd yn cael ei adnabod fel Jonathan Drakeford.

Roedd hefyd wedi cyfaddef yn 2018 i drosedd camdrin rhyw yn erbyn plentyn ar ôl iddo gysylltu gyda merch yr oedd yn credu ei bod yn 15 oed ar Facebook.

Cafodd Mr Humphries ei arestio ym Mangor fis Mawrth 2023, pan oedd yn byw mewn canolfan i droseddwyr ar ôl cael ei ryddhau o’r carchar ar drwydded.

Fe gafodd ei gyhuddo o dorri amodau Gorchymyn Atal Niwed Rhyw ar ddau achlysur.

Y cyntaf oedd iddo greu cyfrif nad oedd wedi ei gymeradwyo gan yr Heddlu, ar wefan dêtio ‘Fab Guys’ ar 2 Mawrth eleni ym Mangor.

Yr ail oedd ei fod wedi dileu hanes ei ddefnydd o’i ffôn symudol, rhwng 2 a 7 Mawrth, hefyd yn groes i’r gorchymyn oedd arno.

Fe blediodd Mr Humphries yn euog i’r ddau gyfrif yn ei erbyn yn Llys Ynadon Caernarfon ddydd Gwener.

Clywodd y Llys fod defnydd Mr Humphries o’r wefan Fab Guys wedi ei gymeradwyo, ond doedd yr enw yr oedd yn defnyddio ar ei gyfrif heb gael ei gymeradwyo.

Dywedodd Catherine Elvin, yr erlynydd, fod y troseddau heb achosi niwed i unrhyw un, ond fod “Gorchymyn Atal Niwed Rhyw yn cael ei roi am reswm”.

'Colli ei fam'

Dywedodd Gemma Morgan, a oedd yn amddiffyn Mr Humphries, ei fod wedi dileu hanes y gwefannau yr oedd wedi ei ymweld â nhw ar ddamwain, gan ei fod yn ceisio dileu’r ap ar y ffôn yn gyfan gwbl.

Dywedodd hefyd ei fod wedi defnyddio’r wefan Fab Guys yn fwy aml ers mis Ionawr gan ei fod mewn llety gyda “phobl estron” ac yr oedd eisiau “rhannu ei deimladau gyda dynion eraill” yn dilyn marwolaeth ei fam Clare Drakeford ym mis Ionawr.

Clywodd y llys hefyd fod Mr Humphries yn awtistig a'i fod ganddo anawsterau dysgu, a’i fod yn awyddus i symud adref ar ol ei gyfnod yn y carchar.

“Ond roedd yn rhaid iddo symud i’r canolfan i droseddwyr oedd wedi ei gymeradwyo er mwyn cael ei fonitro gan swyddogion y gwasanaeth prawf, 24 awr y dydd,” meddai Ms Morgan.

“Doedd Mr Humphries ddim yn ymwybodol o hynny tan yr wythnos cyn iddo adael y carchar.

“Fe wnaeth Mr Humphries golli ei fam ar 28 Ionawr ac mi’r oedd i ffwrdd o’i deulu agos ar y pryd, yn byw gyda phobl estron, yn dioddef yn emosiynol, ac yr oedd yn defnyddio Fab Guys er mwyn mynegi ei deimladau i ddynion eraill, achos ei fod yn teimlo’n unig.”

Clywodd y llys fod Mr Humphries wedi dychwelyd i’r carchar am dorri amodau ei drwydded, gan gynnwys anfon negeseuon maleisus i swyddogion y prawf tra’n byw yn y canolfan i droseddwyr.

Fe dderbyniodd dirwy am y drosedd honno yn Llys Ynadon Abertawe fis Mai eleni.

Mi fydd Mr Humprhies yn cael ei ddedfrydu yn Llys y Goron Caernarfon ar 11 Awst 2023.

Llun: Heddlu De Cymru

Newyddion diweddaraf

Mae'r wefan hon yn defnyddio cwcis i sicrhau eich bod chi'n cael y profiad gorau ar ein gwefan.