
Sesiwn Fawr Dolgellau: 'Nes i wylio'r un bandiau yn Tafwyl am ddim'
Wrth i'r Sesiwn Fawr ddychwelyd i Ddolgellau unwaith eto eleni mae rhai pobl wedi mynegi siom eu bod yn cael eu "prisio allan" oherwydd cost tocynnau.
Mae'r ŵyl yn cynnig pecynnau mynediad gwahanol, sy'n cynnwys tocyn i gig yn y clwb rygbi nos Sadwrn am £12 y pen.
Ond er mwyn gweld y rhan fwyaf o'r bandiau yn chwarae ar hyd y penwythnos bydd angen prynu tocyn £68 sy'n cynnwys mynediad i westy Y Llong - lle mae nifer helaeth o'r digwyddiadau yn cael eu cynnal.
Nid yw'r tocyn yma yn caniatáu mynediad i gig y clwb rygbi ar y nos Sadwrn ac nid oes modd prynu tocyn Y Llong am un noson yn unig.
Dywedodd llefarydd ar ran Sesiwn Fawr Dolgellau bod prisiau yn codi gan fod costau cynnal yr ŵyl wedi codi hefyd.
"Yn anffodus, mae prisiau pob dim wedi codi. Mae costau diogelwch yr ŵyl wedi codi 183% ers llynedd, a’r costau sain wedi codi 64%. Mae’r pris tocyn wedi gorfod codi 10% felly i helpu tuag at gostau cynyddol cynnal gŵyl o’r fath."

Fe wnaeth Osian James o Gellilydan brynu tocyn Y Llong y llynedd, ond penderfynodd beidio gwneud hynny eleni oherwydd y gost.
Eleni fe fydd yn gwylio'r gigiau sydd am ddim ar sgwâr yn dref a thu allan i dafarndai, fydd yn cael eu cynnal rhwng 11:00 a 18:00.
"Dylai fod gigs fel sesiwn fawr a'r sîn gerddoriaeth Cymraeg fod yn accessible i bobl o bob dosbarth yng Nghymru," meddai.
"Dwi'n dod o gefndir tlawd fel llawer iawn o ardal Meirionydd, rhan enfawr o culture Cymru. Ond mae nifer o bobl modern Cymraeg dosbarth canol yn ddigon sydyn yn anghofio am bobl fel ni.
"Dwi wedi clywed nifer o straeon am strydoedd a caeau Dolgellau yn llawn dop gyda niferoedd enfawr o bobl yn ôl yn dyddia gora y Sesiwn Fawr. Sut mae disgwyl cael y niferoedd hyn pan mae'r safon yn gostwng ac mae'r prisiau yn codi?
"Mae pobl yn cael eu prisio allan."
'Popeth yn adio lan'
Un sydd wedi penderfynu peidio mynd i'r Sesiwn Fawr eleni yw Tesni Davies o Abertawe.
Penderfynodd beidio mynd ar sail costau, gan ddweud bod gwylio'r gigiau ar y sgwar "ddim yn cyfiawnhau'r gost o deithio hyd yn oed."
"Mae popeth jyst yn adio lan. Petrol, hotel heb son am actually prynu tocyn i wylio'r bandiau yn y clwb rygbi a'r Ship.
"Mae'n costio £80 jyst am y Ship a'r clwb rygbi, heb son am ychwanegu cost petrol am dair awr o deithio a llety ar gyfer dwy noson.
"Nes i wylio'r un bandiau yn Tafwyl penwythnos diwethaf am ddim. Fi'n deall bod costiau i gynnal y pethe' 'ma ond dyw e jyst ddim werth talu gymaint a 'ny pan ma' digwyddiadau eraill am ddim."
'Pris wedi codi'
Dywedodd llefarydd ar ran Sesiwn Fawr Dolgellau wrth Newyddion S4C: "Rydym ni wastad yn awyddus i gael adborth gan fynychwyr yr ŵyl, ac yn cydnabod bod pris tocyn i’r ŵyl wedi codi dros y blynyddoedd diweddar.
"Mae’r Sesiwn Fawr yn cael ei rhedeg gan bwyllgor gwirfoddol, ac rydym ni’n ddibynnol ar refeniw trwy docynnau er mwyn gallu ei chynnal.
"Mae’r pwyllgor yn trio teilwra’r Sesiwn Fawr i fod yn hygyrch i bawb. Mae Tocyn Penwythnos £68 yn cynnig mynediad i dair noson y brif lwyfan yng nghefn y Ship (15 band), Sesiwn Gomedi, a Sesiwn Jazz - 5 gig i gyd.
Mae tocynnau rhatach i gigs unigol ar gael sydd yn amrywio rhwng £3 - £15. Yn ogystal â hynny, mae naw llwyfan o amgylch y dref ar y prynhawn Sadwrn sydd yn cynnig adloniant yn rhad ac am ddim sy’n cynnwys gweithgareddau i blant, sesiynau llên, sgyrsiau a chomedi, a pherfformiadau gan rai o brif fandiau’r ŵyl fel y Cledrau, Geraint Løvgreen a’r enw da, Gai Toms a La Tropa Son (band o Golombia).
"Felly, digon ymlaen, ac rydym ni’n edrych ymlaen at groesawu pobl leol a thu hwnt i Ddolgellau i fwynhau’r Sesiwn Fawr - tocyn penwythnos, neu beidio."