Creu swydd newydd i Brif Weithredwr dros dro Undeb Rygbi Cymru
Mae swydd newydd wedi cael ei chreu i Brif Weithredwr dros dro Undeb Rygbi Cymru Nigel Walker.
Bydd Mr Walker yn parhau yn ei swydd bresennol fel Prif Weithredwr dros dro URC tan y bydd Prif Weithredwr newydd yn dechrau.
Roedd Nigel Walker wedi ei ystyried yn un o'r ceffylau blaen ar gyfer swydd Prif Weithredwr parhaol yr undeb.
Roedd wedi cymryd y swydd dros dro wedi i'r prif weithredwr blaenorol, Steve Phillips, ymddiswyddo yn sgil honiadau o "ddiwylliant gwenwynig" o fewn yr undeb.
Ond unwaith y bydd rhywun newydd yn y swydd prif weithredwr, bydd Mr Walker yn dechrau yn ei swydd fel Cyfarwyddwr Gweithredol Rygbi, meddai'r undeb heddiw.
Yn ôl Undeb Rygbi Cymru, pwrpas y swydd yma fydd i "oruchwylio, hyrwyddo a chynnal rygbi cymunedol, proffesiynol a rhyngwladol yng Nghymru".
Dywed yr undeb ei fod hefyd yn dangos ei awydd i wella cysylltiadau rhwng rygbi cymunedol, proffesiynol a rhyngwladol yng Nghymru.
'Braint ac anrhydedd'
Dywedodd Mr Walker ei bod "wedi bod yn fraint ac yn anrhydedd cael gwasanaethu ein gêm ac arwain rygbi Cymru drwy ei heriau diweddar dros y chwe mis diwethaf".
"Roeddwn i'n gwybod yn gynnar yn y broses recriwtio bod Richard a'r Bwrdd eisiau Prif Weithredwr gyda chefndir masnachol cryf, felly fe wnes i dynnu'n ôl o'r broses, ac rwyf wedi bod yn ddiolchgar am y gonestrwydd a'r ymrwymiad a ddangoswyd i mi," meddai.
"Pan drafododd Richard rôl newydd Cyfarwyddwr Gweithredol Rygbi gyda mi, ‘roedd y syniad yn apelio'n fawr ataf. Byddaf yn mynd i'r afael â'i heriau gyda'r un egni a phenderfyniad yr wyf wedi ceisio eu dangos wrth arwain yr Undeb dros y misoedd diwethaf."
'Ymdeimlad o berthyn'
Mae Mr Walker wedi bod yn ei rôl fel Prif Weithredwr dros dro yr undeb ers mis Chwefror eleni, ac roedd yn chwarae rhan ganolog wrth geisio moderneiddio llywodraethiant yr Undeb ynghyd ag Ieuan Evans.
Dywedodd Cadeirydd newydd URC Richard Collier-Keywood: "Rwy'n falch iawn y bydd Nigel yn ymgymryd â'r her newydd hon. Mae wedi gwneud gwaith gwych yn arwain URC dros y misoedd diwethaf.
"Mae'r rôl hon yn hanfodol ac allweddol wrth i ni geisio creu ymdeimlad o berthyn ar draws pob agwedd o’n gêm - ar lefel rygbi cymunedol, proffesiynol a rhyngwladol yng Nghymru.
"Rydyn ni eisiau ehangu apêl rygbi i bawb yng Nghymru a chreu mwy o undod o lawr gwlad i lefel ryngwladol ar draws pob fformat o'r gêm."