Cyngor Cymuned yng Ngwynedd yn colli £9,000 ar ôl cael ei dwyllo

19/07/2023
Castell Harlech

Mae Cyngor Cymuned yng Ngwynedd wedi colli £9,000 o arian cyhoeddus ar ôl cael ei dwyllo.

Yn ôl cofnodion o gyfarfod Cyngor Cymuned Harlech ar 9 Ionawr 2023, fe gafodd arian ei gymryd ar ôl “twyll taliad awdurdodedig (APP)”.

Twyll APP yw’r “math o dwyll ble mae troseddwr yn twyllo person i drosglwyddo arian iddyn nhw," yn ôl gwefan HSBC.

“Mae'n wahanol i fathau arall o dwyll, ble mae troseddwyr yn cael mynediad i gyfrifon a dwyn arian heb i ddeiliad y cyfrif wybod," meddai'r banc.

Mae’r digwyddiad yn ymwneud â “taliad o flaen llaw” a gafodd ei wneud i berson oedd am gynnal “gwaith ymgynghorol” ar gyfer y cyngor.

'Twyll'

Yn ôl gwefan y cyngor: “Fe wnaeth y trysorydd adrodd, yn anffodus, fod y cyngor wedi ei dwyllo allan o £9,000 gan berson o’r enw Oluwafeni Odunuga – gan ddweud ei fod am gynnal gwaith ymgynghorol i’r cyngor, ac y byddai taliad angen ei wneud o flaen llaw."

Dywedodd hefyd fod y trysorydd wedi datgan ymhellach ei bod “wedi ffonio adran dwyll banc HSBC” a bod y mater yn cael ei drin ganddyn nhw ar y pryd.

Dywedodd Annwen Hughes, clerc y cyngor, cynghorydd cymuned a chynghorydd Gwynedd ar gyfer Harlech a Llanbedr: “Mae’r mater hwn wedi cael ei drin gan y cyngor cymuned ac ni fydd yn cael ei drafod ymhellach.”

Llun gan Arthur C Harris (CC BY-SA 2.0).

Newyddion diweddaraf

Mae'r wefan hon yn defnyddio cwcis i sicrhau eich bod chi'n cael y profiad gorau ar ein gwefan.