‘Ma dros filiwn o gamau, a dros filiwn o resymau’: Taith gerdded yr actor Ifan Huw Dafydd er cof am ei nai
‘Ma dros filiwn o gamau, a dros filiwn o resymau’: Taith gerdded yr actor Ifan Huw Dafydd er cof am ei nai
Mae’r actor Ifan Huw Dafydd yn wynebu her drwy gerdded 500 milltir ar draws Sbaen er cof am ei nai Rhys Tom.
Fe fydd yn dilyn un o lwybrau enwocaf y pererindod – y Camino Frances – sy’n dechrau yn St. Jean-Pied-De-Port, Ffrainc, ac yn gorffen yng ngorllewin Sbaen.
Dywedodd wrth Newyddion S4C: “O ni wastod wedi isie neud e. Gweud y gwir, o ni’n teimlo’n rhy hen i neud rhwybeth fel hyn.
“A wedyn digwyddodd yr achlysur trist ma. Wedes i - 'wel gwna rhywbeth ambyti fe'.”
Bu farw ei nai, Rhys Tom, yn 31 oed ym mis Mawrth eleni.
“Odd en achlysur trist iawn i ni fel teulu. Cythreulig o drist – fe gollon ni nai fi, Rhys Tom, Twm odd pawb yn ei nabod e fel,” meddai.
Fe fydd yr actor yn codi arian at ddwy elusen – Tŷ Hafan a sefydliad Jac Lewis Foundation.
Elusen sy’n cefnogi teuluoedd sydd wedi colli eu hanwyliaid i hunanladdiad yw Jac Lewis Foundation.
Ma' beth fydda i yn 'i neud am y cwpwl o fisoedd nesa'! Nawr chi'n gwbod pam wy' wedi bod yn codi'n gynnar ac yn cerdded cyment. Cymerwch bip, a plis rhowch ginog fach os gallwch chi. Diolch yn fowr.❤️❤️ @tyhafan @JacLewisFdn #CaminoFrances https://t.co/jtAfeFGlSu
— Ifan Huw Dafydd 🏴🇪🇺🇵🇸💙🇺🇦#FBPE (@IfanHuwDafydd) July 4, 2023
Esboniodd Ifan Huw Dafydd bod yr elusen yn cynnig sesiynau cwnsela i deuluoedd sy’n wynebu cyfnodau anodd yn dilyn colli anwyliaid.
“Ma nhw hefyd yn hyfforddi pobl yn y cymunedau i nabod a helpu eu cymdogion efallai sydd yn mynd trwy gyfnodau anodd.
“A hefyd ma' nhw wedi sefydlu prosiect sa18 – rhyw fath o ganolfon lle all unrhywun o unrhyw oedran jest cerdded mewn a cal sesiwn o gwnsela,” ychwanegodd.
Yn ôl yr actor, mae angen cyfleusterau tebyg ar draws ardaloedd eraill o Gymru, a hyn ar ôl iddo weld ystadegau cyfraddau hunan laddiad ar draws Prydain yn “anghyffyrddus ofnadwy.”
Cyfeiriodd at gyfraddau Ceredigion. Yn ôl y wefan, Zero Suicide Alliance, Ceredigion sydd â’r gyfradd uchaf o hunan laddiadau ar draws Gymru, gyda 20.1 hunan laddiad i bob can mil o’r boblogaeth.
“Ma fe’n anhygoel i mi. Tasa fe’n cael ei galw’n coronfeirws bysa rhwyun wedi neud rhwybeth ambyti fe erbyn hyn,” meddai Ifan Huw Dafydd.
Dywedodd. “Be' sy' yn amlwg yw bod isie mwy o gyfleusterau yn yr ardaloedd hynny i atal y peth.”
Llawn bywyd
Roedd ei nai, yn chwaraewr rygbi i Gastell Newydd Emlyn ac yn focsiwr brwd. Mae ganddo ferch fach blwydd oed.
Dywedodd Huw, roedd Twm bob tro yn “suo ei ferch fach i gysgu yn canu Nessun Dorma ar dop ei lais.
“Odd e’n hoff iawn o ganu. Os o' chi’n ffonio fe, doedd e ddim yn becso pwy odd pen arall y ffôn, byde fe’n canu i chi.
“Roedd yn llanw unrhyw stafell odd e ynddo fe. Odd e’n llawn bywyd, joio bywyd.
“Ma' fe’n golled fawr i ni fel teulu. Neis cael neud rhywbeth i gofio amdano fe,” meddai.
Antur
Nid yw’n adnabod neb arall sy’n cerdded y llwybr ar yr un pryd ag ef.
Dywedodd: “Fi wastod wedi lico’r syniad o ddechre ar siwrne a ddim yn gwybod siwt ma fe mynd i fynd.
“Ond ma' 'na rhyw antur fi’n lico yn y siwrne. Fyddai ddim yn gwybod sut fydd y siwrne yn gwitho mas, na le fyddai’n aros.
“Ma na rai pobl yn cael eu gorfodi i gysgu dan coed a pethe achos dy' nhw ddim wedi gallu cerdded y camau sydd isie bob dydd.”
Ei obaith yw cwblhau’r daith o fewn chwe wythnos, meddai. Bydd rhaid cerdded tua 20km bob dydd, dywedodd.
Ond nid dyma’r tro cyntaf i’r actor gyflawni her cerdded. Ddeuddeg mlynedd yn ôl, fe aeth i gyffiniau Everest, gyda’i bartner Llinos.
“Na'th Llinos fy mhartner i benderfynu bydde hi’n lico mynd i Everest base camp.
“Odd e eitha caled achos odd e mor uchel i ddechre, ond fi’n credu taw wâc yn y parc fydd hwnnw i gymharu â’r 500 milltir hyn.”